Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhowch wybod am ddiffygion draenio

Rydym yn gweithio'n galed i gynnal ein systemau draenio drwy:

  • archwilio
  • glanhau
  • atgyweirio
  • uwchraddio

Mathau o seilweithiau draenio

Dyma rai enghreifftiau cyffredin o ddraenio yng Nghastell-nedd Port Talbot:

Tyllau archwilio

Defnyddir tyllau archwilio i gael mynediad a chynnal systemau tanddaearol fel carthffosydd a phibellau.

 Maent yn helpu gyda:

  • archwiliadau
  • glanhau
  • atgyweiriadau
  • awyru
  • mynediad brys
*

Gyli

Ffitiad draenio pen agored a geir yn gyffredin ar ochrau ffyrdd. Maent yn caniatáu i ddŵr wyneb lifo i garthffosydd tanddaearol.

Mae'n atal dŵr rhag cronni ar ffyrdd a phalmentydd, sy'n helpu i leihau'r risg o lifogydd.

*

Cwlfert

Strwythur a phibell sy'n caniatáu i ddŵr fynd yn rhydd o dan y ddaear.

Maent yn caniatáu i ddŵr lifo o dan:

  • ffyrdd 
  • rheilffyrdd
  • cloddiau
  • parciau
  • gerddi
*

Sianeli draenio

Mae sianeli draenio wedi'u cynllunio i helpu i leihau'r risg o lifogydd ac erydiad.

Fe'u hadeiladir i gyfeirio dŵr i ffwrdd o ardaloedd penodol fel:

  • priffordd
  • ffyrdd gyrru
  • patios
  • gerddi
  • llwybrau cerdded
*

Manteision pwysig

Mae seilwaith draenio yn cynnig nifer o fanteision pwysig megis:

  • atal llifogydd - atal dŵr rhag difrodi a gorlifo adeiladau a ffyrdd
  • iechyd a diogelwch - yn tynnu dŵr budr i ffwrdd i gadw pobl yn ddiogel
  • rheoli dŵr - mae'n defnyddio amrywiaeth o dechnegau i ganiatáu i ddŵr suddo i'r ddaear

Rhowch wybod am broblem

Gallwch roi gwybod am unrhyw rwystrau, difrod neu ddiffyg ar-lein.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnom:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich cyfeiriad e-bost
  • manylion am y broblem