Rhowch wybod am lifogydd
Cyfrifoldeb y canlynol yw glanhau a chynnal a chadw asedau draenio:
- CNPT
- Dŵr Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Perchnogion tir a pherchnogion tai preifat
Bydd pwy sydd angen i chi gysylltu ag ef yn dibynnu ar beth sydd yn gorlifo.
Ffyrdd, draeniau cyhoeddus, dŵr ar y wyneb, dŵr o dan y ddaear neu gyrsiau dŵr cyffredin
Defnyddiwch ein ffurflen adrodd i ddweud wrthym am:
- llifogydd y tu mewn neu'r tu allan i eiddo
- draen ar ochr y ffordd wedi'i rwystro
- ffordd wedi'i gorlifo
- cwlfert / nant wedi'i rhwystro
Dylech hefyd ddweud wrthym os oes sefyllfa rydych chi'n credu a allai arwain at lifogydd
Carthffosydd, prif bibellau dŵr neu ddraeniau cartref
Cysylltwch â Dŵr Cymru i roi gwybod am:
- carthffosydd wedi'u blocio
- prif bibellau dŵr wedi byrstio
Gwasanaethau Dŵr ac achosion brys
Gwasanaethau Carthffosiaeth ac achosion brys
Prif afonydd neu gronfeydd dŵr
Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod am lifogydd a achosir gan brif afonydd neu gronfeydd dŵr.
Cyfoeth Naturiol Cymru