Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynllun graeanu’r gaeaf

Beth mae'r Cyngor yn ei ddefnyddio i drin y briffordd

Rydym yn defnyddio halen craig sych i drin y ffyrdd.

Mae halenu yn digwydd pan ddisgwylir i'r tymheredd ostwng o dan 1°C a bod rhew neu iâ yn cael ei ragweld.

Ffyrdd a fydd yn cael eu graeanu

Rydym yn blaenoriaethu graeanu'r ffyrdd canlynol:

  • prif ffyrdd a phriffyrdd
  • ffyrdd i ysbytai, gorsafoedd tân, a chanolfannau brys
  • ffyrdd sy'n cysylltu pentrefi
  • ffyrdd i ffynonellau tanwydd a bwyd
  • llwybrau bysiau (gan gynnwys bysiau ysgol)
  • ffyrdd stad ddiwydiannol
  • prif ffyrdd yn y trefi
  • llwybrau pwysig eraill

I gael rhagor o fanylion, edrychwch ar ein Cynllun Gweithredol Gwasanaeth y Gaeaf.

Llwybrau graeanu

Rydym yn trin ein llwybrau graeanu cyn disgwyl amodau rhewllyd. 

Ein pedwar prif lwybr yw:

  • Llwybr Uchel 1: Resolfen, Tonna, Cimla, Dyffryn Afan
  • Llwybr Uchel 2: GCG, Ystalyfera, Crynant, Banwen, Glyn-nedd
  • Llwybr Isel 1: Port Talbot, Margam, Aberafan, Baglan, Llansawel, Castell-nedd
  • Llwybr Isel 2: Ffordd Fabian, Llandarcy, Sgiwen, Bryncoch, Pontardawe

Yn ystod cyfnodau hir o rew, rydym yn parhau i drin y llwybrau hyn. Pan fydd eira yn cael ei ragweld, rydym yn clirio ffyrdd allweddol yn gyntaf, fel y rhai i ysbytai a chanolfannau brys.

Bydd ffyrdd a llwybrau troed eraill yn cael eu clirio cymaint ag y gallwn.

Pryd fyddwn yn graeanu

Rydym yn graeanu o ganol mis Hydref i ganol mis Ebrill. 

  • Rydym yn gwirio'r tywydd bob dydd gyda diweddariadau byw o bum gorsaf. 
  • Rydym yn halenu ffyrdd cyn rhew neu iâ ac yn parhau i'w trin os yw'n aros yn rhewllyd. 
  • Mae'r broses hon yn cymryd tua 3 awr a 30 munud.

Palmentydd a llwybrau beicio

Nid yw palmentydd na llwybrau beicio fel arfer yn cael eu graeanu cyn eira neu rew, ac eithrio yng nghanol trefi. 

Yn ystod cyfnodau hir o rew neu eira, rydym yn trin llwybrau troed prysur ger ysgolion ac ysbytai. 

Rydym yn osgoi halenu dros groesfannau lefel i atal problemau signalau.

Fflyd y gaeaf

Mae gennym 6 cherbyd gwasgaru ar gyfer y 4 prif lwybr a cherbyd pwrpasol ar gyfer yr A465. Mae'r 6ed cerbyd yn gerbyd wrth gefn. 

Yn 2020, enwodd y cyhoedd bump o'r cerbydau hyn:

•    Justin Non-sliperic
•    Gareth Spreadwards
•    Richard Brrrrrton
•    Bonnie Tyre
•    Michael Gritter Ma-Sheen

Mae pob cerbyd yn cwmpasu llwybrau penodol. Mae Michael Gritter Ma-Sheen yn cwmpasu Llwybr Uchel 2, gan gynnwys Cwmtwrch, lle mae Michael Sheen yn byw.

Cynlluniau wrth gefn ar gyfer lefelau graean

Rhannu cyflenwadau ac offer

Rydym yn rhannu graean a chyfarpar gyda chynghorau eraill os byddwn yn rhedeg yn isel neu os bydd tywydd garw yn taro.

Mae'r cynghorau cyfagos yr ydym yn cydlynu â nhw yn cynnwys:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin 
  • Cyngor Sir Powys 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 
  • Cyngor Bwrdeistref Abertawe 
  • Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr

Rheoli stoc halen 

Mae lefelau halen yn cael eu hadolygu'n gyson wrth i ni anelu at gadw stociau halen ar 1.5 gwaith y defnydd cyfartalog dros chwe blynedd. 

Mae gennym ysgubor halen newydd yng Nghanolfan Ymateb i Wasanaethau, Y Ceiau, gyda chynhwysedd o 7,500 tunnell o halen craig.

Clirio rhew ac eira

Ystyriwch eich iechyd a'ch diogelwch bob amser:

  • gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol
  • os oes gennych broblemau iechyd, gofynnwch am gymorth gan gymdogion

Mae'r  Adran Drafnidiaeth yn cynnig y cyngor canlynol:

  • cliriwch eira'n gynnar - mae'n haws symud eira ffres, rhydd
  • osgowch ddefnyddio dŵr - gallai ail-rewi a throi'n iâ du
  • defnyddiwch halen - mae'n toddi iâ neu eira ac yn atal ail-rewi dros nos. (Peidiwch â defnyddio halen o finiau halen; mae ar gyfer ffyrdd)
  • defnyddiwch ludw neu dywod - os nad oes gennych ddigon o halen, gall y rhain ddarparu gafael
  • byddwch yn ofalus ar risiau a llwybrau serth - defnyddiwch fwy o halen am ddiogelwch ychwanegol

The Adran Drafnidiaeth yn dweud na fyddwch yn debygol o gael eich erlyn os bydd rhywun yn cael ei anafu ar lwybr a gliriwyd gennych yn ofalus.

Biniau Graean

Stocio a cheisiadau

  • Stocio - mae biniau graean yn cael eu stocio drwy gydol tymor y gaeaf.
  • Ceisiadau - i ofyn am fin graean newydd, cysylltwch â'ch Cynghorydd lleol.

Canllawiau defnyddio

  • Defnydd cyhoeddus yn unig - defnyddiwch yr halen mewn biniau graean ar gyfer ffyrdd cyhoeddus a llwybrau troed yn unig.
  • Defnydd preifat - peidiwch â'i ddefnyddio ar gyfer dreifiau preifat, meysydd parcio, na mannau eraill nad ydynt yn gyhoeddus. Ar gyfer defnydd preifat, gallwch brynu halen gan fasnachwyr adeiladwyr lleol. Maent fel arfer yn cynnig danfon.

Dod o hyd i fin graean a gofyn amdano

  • Lleoliad - mae biniau graean yn cael eu gosod i'w defnyddio yn ystod tywydd garw. Cânt eu llenwi cyn y gaeaf, eu monitro, a'u hail-lenwi yn ôl yr angen.
  • Gofyn am fin - i ofyn am fin graean ar gyfer eich stryd, cysylltwch â'ch Cynghorydd lleol. Gallwch ddod o hyd i'w manylion ar ein tudalen Dod o Hyd i'ch Cynghorydd.
Cofiwch, dim ond at ddefnydd cyhoeddus y mae'r halen yn y biniau hyn. Ar gyfer ffyrdd ac eiddo preifat, prynwch halen gan fasnachwyr adeiladwyr lleol.