Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ymchwiliadau i lifogydd

Fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA) ar gyfer Castell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i ni ymchwilio i bob achos o lifeirio sy'n digwydd yn y Fwrdeistref. Ar ôl ein hymchwiliad, mae gennym ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad.

Pan fydd llifogydd yn digwydd, rhaid i ni ddarganfod pwy sy'n gyfrifol a gwirio a ydyn nhw wedi cymryd camau gweithredu neu a ydyn nhw'n bwriadu cymryd camau gweithredu.

Rhaid cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad a hysbysu'r awdurdodau perthnasol.

Rhaid i ni gynhyrchu adroddiad os:

  • mae pump neu fwy o eiddo wedi cael eu llifeirio
  • mae'r dŵr yn dod o ddwy ffynhonnell neu fwy
  • rydym yn penderfynu bod angen adroddiad

Fel arfer mae'r adroddiadau hyn yn cynnwys:

  • gwybodaeth gefndir am y lleoliad
  • crynodeb a dadansoddiad o'r glawiad
  • gwybodaeth am faint y llifogydd
  • canfyddiadau ymchwiliad manwl
  • rolau a chyfrifoldebau pob awdurdod rheoli risg a'u gweithredoedd
  • camau gweithredu a argymhellir o'r ymchwiliad
  • crynodeb a dadansoddiad o'r glawiad

 Bydd canlyniad pob ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi a gellir eu gweld isod.