Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Astudiaeth o draffig canol tref Castell-nedd

Trosolwg

Byddwn yn cynnal astudiaeth traffig yng nghanol tref Castell-nedd ac yn yr ardal gyfagos rhwng diwedd mis Medi a dechrau mis Hydref 2026.

Bydd yr astudiaeth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae traffig, bysiau, cerddwyr a beicwyr yn symud o amgylch y dref. Bydd hefyd yn ein helpu i ddeall sut y gallai gwelliannau trafnidiaeth, datblygiadau, prosiectau adfywio a buddsoddiadau eraill effeithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn darparu tystiolaeth i gefnogi penderfyniadau a buddsoddiadau yn y dyfodol. Bydd yn ein helpu i asesu materion fel tagfeydd, dibynadwyedd amseroedd teithio, gallu'r rhwydwaith i ymdopi ag aflonyddwch, a'r effaith bosibl y gallai prosiectau trafnidiaeth a datblygu arfaethedig ei chael.

Beth mae'r arolwg yn ei gynnwys

Fel rhan o'r astudiaeth, bydd camerâu dros dro ac offer arolygu eraill yn cael eu gosod mewn lleoliadau dethol o amgylch canol tref.

Diben yr offer yw casglu gwybodaeth am symudiadau traffig a phatrymau teithio er mwyn ein helpu i ddeall yn well sut mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn gweithredu.

Mae astudiaethau traffig yn rhan o'n gwaith bob dydd ac yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled y fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, oherwydd maint yr astudiaeth hon, mae'n bosibl y bydd yr offer a ddefnyddir yn fwy amlwg nag y mae trigolion yn gyfarwydd â'i weld fel arfer.

Offer dros dro yn unig

Bydd yr holl offer arolygu yn rhai dros dro a byddant yn cael eu cadw yn eu lle dim ond cyhyd ag y bydd angen i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer yr astudiaeth.

Nid ydym yn disgwyl i'r gwaith arolygu achosi unrhyw darfu ar deithio arferol, a gall trigolion barhau i ddefnyddio canol tref Castell-nedd fel arfer tra bo'r astudiaeth yn cael ei chynnal.

Cwestiynau Cyffredin

A fydd ffyrdd yn cau?

Na fydd. Nid oes disgwyl i unrhyw ffyrdd gau fel rhan o'r astudiaeth.

Mae'r arolygon wedi'u cynllunio i gael eu cynnal gydag effaith fach iawn ar bobl sy'n teithio drwy'r ardal.

Beth fydd yn digwydd i'r wybodaeth a gesglir?

Bydd y wybodaeth yn cael ei dadansoddi er mwyn darparu dealltwriaeth gyfredol o batrymau teithio yn ardal yr astudiaeth. 

Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio prosesau penderfynu yn y dyfodol.

A yw'r astudiaeth hon yn gysylltiedig ag unrhyw newidiadau arfaethedig i ffyrdd neu gynlluniau trafnidiaeth?

Diben yr astudiaeth yw casglu gwybodaeth gyfredol am batrymau teithio yng Nghastell-nedd a'r ardal gyfagos. Bydd y wybodaeth a gesglir yn darparu tystiolaeth i lywio trafodaethau yn y dyfodol ynghylch trafnidiaeth a datblygu.

Bydd unrhyw gynigion yn y dyfodol yn cael eu hystyried ar wahân a, lle bo angen, yn destun eu prosesau penderfynu ac ymgynghori eu hunain.

A fydd yr astudiaeth yn casglu gwybodaeth bersonol?

Nid yw'r astudiaeth yn cael ei chynnal i gasglu gwybodaeth bersonol ac nid yw wedi'i chynllunio i adnabod unigolion na cherbydau penodol.

Diben yr arolwg yw deall sut mae pobl yn teithio o amgylch yr ardal a sut mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn cael ei ddefnyddio. Nid yw'n cael ei gynnal at ddibenion gorfodi.

Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

Mae'r astudiaeth yn cael ei chynnal ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot gan ymgynghorwyr arolygu arbenigol.

Sut mae'r astudiaeth hon yn cael ei hariannu?

Caiff yr astudiaeth hon ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer 2026 i 2027.

Nol i ben y dudalen