Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwneud cais neu adnewyddu eich tocyn bws

Mae’n bosibl y gallwch chi gael teithio am ddim ar wasanaethau bws lleol yng Nghymru os ydych chi:

  • anabl
  • yn 60 oed neu drosodd
  • personél y lluoedd arfog a anafwyd

Gwnewch gais

Gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf bydd angen:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • llun digidol ohonoch chi'ch hun

Os ydych yn adnewyddu bydd angen rhif eich tocyn bws presennol.

Os oes angen ffurflen bapur arnoch, ffoniwch 0300 303 4240.