Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Teithio ar fws am bris gostyngol i bobl ifanc

Os ydych rhwng 16 a 21 oed ac yn byw yng Nghymru gallwch wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio.

Mae hyn yn golygu y gallech gael tua thraean oddi ar gost teithio ar fws.

Sut mae'r tocyn yn gweithio

Mae’r tocyn teithio am ddim a gallwch ei ddefnyddio unrhyw bryd ac mor aml ag y dymunwch ar fysiau yng Nghymru.

Nid oes unrhyw gyfyngiad ar y math o daith a wnewch pan fyddwch yn defnyddio'r tocyn.

Gall eich taith fod ar gyfer:

  • ysgol neu goleg
  • ymweld â ffrindiau 
  • hamdden

Gwnewch gais am docyn teithio

Gallwch wneud cais ar-lein neu dros y ffôn:

Fy Ngherdyn Teithio
(0300) 200 22 33 (0300) 200 22 33 voice +443002002233