Gweithio gyda'n gilydd
Ein gweledigaeth
Rydym yn credu mewn gweithio gyda theuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau er lles pobl.
Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu cryfderau pobl, a chryfderau eu cymuned.
Mae hyn yn ein helpu i ddeall yr hyn y gall bywyd da fod yn eu barn hwy, a sut gallwn weithio tuag at hyn.
Sut rydym yn gweithio
Cyfathrebu
Rydym yn gwrando ar bobl gyda pharch a charedigrwydd ac yn meithrin ymddiriedaeth. Gallwn helpu pobl i newid y rhannau o'u bywyd sy'n peri problemau os gallwn eu deall.
Llais
Rydym yn defnyddio geiriau pobl eu hunain mewn cynlluniau a gwaith papur ac yn sicrhau eu bod yn hawdd eu deall. Rydym yn gadael i bobl adrodd straeon a rhannu nodau yn eu geiriau eu hunain ac yn helpu pobl i ddod o hyd i'w ffyrdd eu hunain o ddatrys problemau.
Cryfderau
Rydym yn adeiladu ar:
- yr hyn y mae pobl yn dda am wneud
- yr hyn sy'n gweithio'n dda
- cefnogaeth sydd ganddynt eisoes
Perthnasoedd a phartneriaeth
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â phobl i feithrin ymddiriedaeth a pharch i helpu pobl i deimlo'n ddiogel ac atal niwed cudd. Rydym yn gwneud hyn drwy rannu pŵer a chyfrifoldeb.
Canlyniadau
Rydym yn canolbwyntio ar yr hyn sydd o'r pwys mwyaf ym mywydau pobl ar gyfer gwell iechyd a lles.
Teulu
Gall fod gan bob aelod o deulu ddymuniadau, anghenion a risgiau gwahanol. Rydym yn edrych arnynt i gyd ac yn canolbwyntio ar y
canlyniadau a'r risgiau pwysicaf i'r teulu.
Risgiau a chynllunio ar gyfer diogelwch
Risgiau blaenoriaeth yw'r hyn y mae teuluoedd a phobl broffesiynol yn poeni amdano fwyaf. Rydym yn diogelu lle y gallwn ac yn helpu pobl gyda risgiau. Gelwir hyn yn gynllunio ar gyfer diogelwch.
Gonest
Rydym yn onest yn ein gwaith fel bod pobl yn deall:
- yr hyn rydym yn gweithio tuag ato
- beth fydd yn digwydd
- pryd fydd yn digwydd
- pam fydd yn digwydd
Rydym yn agored am y pethau rydym yn poeni amdanynt ac yn gweithio gyda phobl i wneud pethau'n well.
Sgiliau
Mae gan weithwyr hyfforddiant a chefnogaeth barhaus. Er mwyn cynnig ymagwedd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Myfyrio
Rydym yn meddwl am sut rydym yn gweithio. Mae hyn yn ein helpu i:
- ddysgu
- newid
- chadw barn pobl rydym yn eu cefnogi mewn cof
Asesu anghenion
Mae’n rhaid i ni gynnig asesiad i unrhyw blentyn y gallai fod angen gofal a chymorth. Gallai hyn fod yn ychwanegol at neu yn lle gofal a chymorth teulu'r plentyn.
Mae gennych hawl i gael rhywun yn siarad ar eich rhan. Gelwir y person hwn yn eiriolwr. Gallwch hefyd gael cefnogaeth annibynnol.
Os bydd unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn dan 16 oed yn gwrthod asesiad, yna nid yw'r ddyletswydd arnom i asesu yn berthnasol. Gall gwrthodiad rhiant gael ei ddiystyru.
Caniatâd
Er mwyn cwblhau'r asesiad yn aml mae angen i ni gysylltu ag asiantaethau a gwasanaethau eraill. Mae angen eich caniatâd arnom ar gyfer hyn.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd. Os oes pryderon diogelu gellir diystyru hyn.
Dysgwch fwy am sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data.
Gyda phwy y byddwn yn cysylltu
I gael gwybodaeth ar gyfer asesiad, efallai y byddwn yn cysylltu â:
- yr heddlu
- y GIG
- Addysg
- y Gwasanaeth Prawf
- asiantaethau'r sector gwirfoddol
- Adrannau'r cyngor - er enghraifft Gwasanaethau Cymdeithasol neu Dai
- Tîm Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar
Casglu gwybodaeth
Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a'ch plentyn / plant er mwyn gweithio allan:
- pa wasanaethau/gefnogaeth sydd eu hangen
- pwy sy'n gallu eu darparu
- oes unrhyw risg yn debygol
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, cwblheir dau fath o asesiad gennym sef yr:
- Asesiad Cymesur
- Asesiad y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Asesiad Cymesur
Dyma asesiad o sefyllfa bresennol y teulu. Mae'n ein helpu i gael gwybod a oes angen i ni ddarparu cefnogaeth a chytuno ar sut rydym yn gwneud hyn.
Asesiad Plant a Phobl Ifanc
Dyma asesiad manylach lle bydd yn cael eu hystyried:
- datblygiad y plentyn
- ffactorau amgylcheddol
- gallu i fagu plant
Cefnogaeth
Os oes angen cefnogaeth, cymorth neu gyngor arnoch, gallwch gysylltu â:
- ein Pwynt Cyswllt Unigol
- Gwasanaethau Asesu, Atal a chefnogi Digartrefedd - cyngor a chymorth ynghylch tai
- Tîm Hawliau Lles - cymorth i hawlio budd-daliadau
- Teulu CNPT - gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd sy'n byw yn CNPT
- NYAS Cymru - cefnogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi bod mewn gofal
- NHS 111 Wales
- Dewis - cyfeiriadur o wasanaethau cefnogi
- Mind - gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth iechyd meddwl
- Young Minds - cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc
Sylwadau, canmoliaethau a chwynion
Rydym wir am wybod beth yw eich barn amdanom fel y gallwn wneud gwelliannau i'r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Sylw
Os oes gennych sylw, syniad neu am ein gwasanaethau, hoffem glywed gennych. Gallwch ofyn i oedolyn y gellir ymddiried ynddo i'ch helpu. Anfonwch sylwadau atom.
Canmoliaeth
Os ydych am ddweud wrthym pan fyddwn yn gwneud pethau'n dda, hoffem glywed gennych. Gallwch ofyn i oedolyn y gellir ymddiried ynddo i'ch helpu. Anfonwch ganmoliaeth atom.
Cwyn
Cam un
Gallai siarad â rhywun atal problem fach rhag dod yn un fawr. Peidiwch â bod ofn mynegi eich barn. Efallai nad ydych yn hapus am y canlynol:
- penderfyniadau sy'n cael eu gwneud amdanoch chi
- pobl sy'n eich cefnogi
- gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn
- os nad oes rhywbeth wedi'i wneud
- sut rydych chi wedi cael eich trin
Y ffordd orau i ddatrys y rhan fwyaf o broblemau yw drwy'r staff sy'n gweithio gyda chi. Cysylltwch â'r person â gofal am eich gwasanaeth neu ein Swyddog Cwynion. Fydd yn siarad â'r person hwnnw ar eich rhan. Gallwch ofyn i oedolyn y gellir ymddiried ynddo i'ch helpu.
Cam dau
Os nad ydych chi'n hapus o hyd, cysylltwch â'n Swyddog Cwynion. Fydd yn trefnu i ymchwilydd annibynnol siarad â chi ac ymchwilio i'ch pryderon.
Cymorth arall
Os ydych chi o dan 18 oed gallwch chi gael rhywun i siarad ar eich rhan. Gelwir y person hwn yn eiriolwr. Gofynnwch i ni am ragor o wybodaeth am gael eiriolwr.
Os ydych yn teimlo'ch bod wedi cael eich trin yn annheg mae gennych hawl i gyflwyno'ch pryderon i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Pencoed,
CF35 5LJ pref
Parc Busnes Glan Yr Harbwr,
Heol Yr Harbwr,
Port Talbot,
SA13 1SB pref