Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cymorth gyda chostau gofal plant i rieni cymwys pob plentyn o 3 i 4 oed.

Gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Mae'r cynllun yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn helpu rhieni cymwys i:

  • dychwelyd i'r gwaith
  • cynyddu eu horiau
  • gweithio'n fwy hyblyg
  • mynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant
Logo Cynnig Gofal Plant Cymru

Pryd y gallwch wneud cais

Gweler y tabl isod am fanylion ynghylch pryd i wneud cais am y Gynnig Gofal Plant Cymru:

Ganwyd rhwng Gwnewch gais o Dyddiad cychwyn cynharaf
6 Ionawr 2022 - 27 Ebrill 2022 Nawr 1 Medi 2025
1 Medi 2022 - 4 Ionawr 2023 22 Hydref 2025 5 Ionawr 2026
5 Ionawr 2023 - 12 Ebrill 2023 28 Ionawr 2026 13 Ebrill 2026
13 Ebrill 2023 - 31 Awst 2023 18 Gorffennaf 2026 1 Medi 2026

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys a gwnewch gais

Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am y cynnig ar llyw.cymru:

Cymorth gyda'ch cais

Os ydych angen cymorth gyda'ch cais:

Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant

Rhannu eich Adborth