Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cymorth gyda chostau gofal plant i rieni cymwys pob plentyn o 3 i 4 oed.
Gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Mae'r cynllun yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn helpu rhieni cymwys i:
- dychwelyd i'r gwaith
- cynyddu eu horiau
- gweithio'n fwy hyblyg
- mynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant

Pryd y gallwch wneud cais
Gweler y tabl isod am fanylion ynghylch pryd i wneud cais am y Gynnig Gofal Plant Cymru:
Ganwyd rhwng | Gwnewch gais o | Dyddiad cychwyn cynharaf |
---|---|---|
6 Ionawr 2022 - 27 Ebrill 2022 | Now | 28 Ebrill 2025 |
28 Ebrill 2022 - 31 Awst 2022 | 18 Mehefin 2025 | 1 Medi 2025 |
1 Medi 2022 - 4 Ionawr 2023 | 22 Hydref 2025 | 5 Ionawr 2026 |
Gwiriwch a ydych chi'n gymwys a gwnewch gais
Gallwch wirio a ydych yn gymwys a gwneud cais am y cynnig ar llyw.cymru:
Cymorth gyda'ch cais
Os ydych angen cymorth gyda'ch cais:
- cysylltwch â llinell gymorth y Cynnig Gofal Plant ar 03000 628628
- ebost childcareoffer@npt.gov.uk
Cofrestrwch eich lleoliad gofal plant
Gall darparwyr gofrestru eich lleoliad i gael y Cynllun Gofal Plant ar GOV.WALES