Cyngor Castell-nedd Port Talbot sgiliau Alexa
Hunaniaeth a manylion cyswllt y rheolwr a'r Swyddog Diogelu Data
Rheolwr: Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Manylion Cyswllt:
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ
Swyddog Diogelu Data: Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Pam ydym ni'n casglu'r wybodaeth hon?
Rydym yn casglu gwybodaeth eich cyfeiriad er mwyn darparu gwybodaeth leol megis dyddiadau casglu biniau, cau ysgolion, a dyddiadau tymhorau trwy ap gwe sgiliau Alexa.
Sail gyfreithiol ar gyfer prosesu
Cyflawni tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd
Pa wybodaeth ydym ni'n ei chasglu amdanoch chi?
Rydym yn casglu:
Eich Cyfeiriad: Mae'r wybodaeth hon ar gael gan Amazon Web Services ar ôl i chi roi caniatâd i Amazon Web Services ryngweithio â'u hap sgiliau Alexa.
O ble ydyn ni'n casglu gwybodaeth amdanoch chi?
Rydym yn casglu gwybodaeth cyfeiriad eich dyfais Alexa o Amazon Web Services.
Gyda phwy y gallem rannu eich gwybodaeth?
Dim ond at ddibenion ystadegol y defnyddir gwybodaeth yn fewnol.
Ydych chi'n defnyddio unrhyw brosesau awtomataidd i wneud penderfyniadau amdanaf?
Na, nid ydym yn defnyddio unrhyw brosesau awtomataidd i wneud penderfyniadau amdanoch chi.
A fyddwn ni'n anfon eich gwybodaeth y tu allan i'r DU?
Na, ni fyddwn yn anfon eich gwybodaeth y tu allan i'r DU.
Oes rhaid i mi ddarparu fy nata personol i chi?
Nid oes rhaid i chi ddarparu gwybodaeth i ni, ond ni fydd sgiliau Alexa yn gweithio heb wybodaeth eich cyfeiriad.
Beth yw fy hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth a gedwir amdanaf?
Mae gennych yr hawliau canlynol:
- I weld unrhyw wybodaeth a gedwir amdanoch chi trwy wneud cais gwrthrych am wybodaeth.
- I dynnu caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, lle mai'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yw cydsyniad.
- I gludadwyedd data, lle mai'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yw (i) cydsyniad neu (ii) perfformiad contract.
- I ofyn am gywiro neu ddileu eich gwybodaeth, lle mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu hyn.
A oes gen i hawl i gwyno am y ffordd y mae gwybodaeth wedi cael ei defnyddio?
Gallwch gwyno i swyddog diogelu data'r awdurdod:
Swyddog Diogelu Data: Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Manylion cyswllt:
Y Ganolfan Ddinesig,
Port Talbot,
SA13 1PJ
Fel arall, mae gennych hawl i godi'r mater gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Swydd Gaer SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
E-bost: casework@ico.org.uk
Pa mor hir ydyn ni'n cadw eich gwybodaeth?
Bydd eich cyfeiriad yn cael ei gadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot nes y bydd y cytundeb rhwng sgiliau Amazon Alexa a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben.
Diweddarwyd Diwethaf
Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ddiwethaf yn Mawrth 2025.