Cael help gyda hanfodion ysgol
Cymhwysedd
Gall teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11 ar incwm is ac sy’n cael budd-daliadau penodol wneud cais.
- £125 i bob dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
- £200 i’r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r chostau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
Gall rhieni a gofalwyr dim ond gwneud un cais y flwyddyn ysgol ar gyfer pob plentyn.
Nid yw derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn rhoi hawl awtomatig i'ch plentyn i'r Grant Hanfodion Ysgol:
- Rhaid i ddysgwyr fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) sy'n destun prawf modd.
- Nid yw dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannol yn gymwys.
- Mae pob plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn gymwys i gael y grant.
Ni fydd derbyn y Grant Hanfodion Ysgol yn effeithio ar eich treth neu fudd-daliadau eraill.
Nid yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio neu PYDd cyffredinol yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn.
Efallai y byddwch chi'n gymwys os nad oes gennych chi hawl i arian cyhoeddus (NRPF).
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â: