Gwneud Penderfyniadau ar Sail Data ac Ymchwil
Diweddarwyd yr adran hon ym mis Rhagfyr 2024 yn dilyn asesiad aeddfedrwydd data a chan fod ein tîm data’n dod yn fwy sefydledig yn ffordd o weithio'r Cyngor.
Byddwn yn sicrhau bod ein data o ansawdd uchel, yn addas i'r diben ac yn cael ei reoli'n briodol, yn creu'r gallu, yr isadeiledd, y cadernid a'r trefniadau cydweithio iawn i ysgogi rhagoriaeth o fewn gwasanaethau a gwell canlyniadau, wrth wreiddio ymchwil a dadansoddi ymhellach yn ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Cenhadaeth 1: Rheoli data
Gwreiddio arferion rheoli data cryf i sicrhau ein bod yn deall ein data ac yn ymddiried ynddo ac yn ei ddefnyddio'n effeithiol i gyflwyno'n rhaglenni trawsnewid.
- Cynnal a diweddaru cofrestr o asedau gwybodaeth ar draws y sefydliad ochr yn ochr ag ystorfa metadata
- Nodi'r setiau data hanfodol ar draws y Cyngor a gwella'u hansawdd
- Rhoi safonau data cyffredin ar waith ar draws y Cyngor
- Hyrwyddo rhannu data rhwng timau a sicrhau bod setiau data hanfodol yn barod i'w cysylltu
Cenhadaeth 2: Ymchwil
Hyrwyddo diwylliant ar draws y Cyngor lle y defnyddir allbynnau ymchwil gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau i dargedu gwasanaethau lle byddant yn cael yr effaith fwyaf ar wella bywydau pobl, lleihau anghydraddoldeb a lleihau galw yn y dyfodol.
- Datblygu medrusrwydd ein staff a'n gallu i gomisiynu, cyd-gynhyrchu a defnyddio ymchwil
- Sicrhau bod y sawl sy'n gwneud penderfyniadau'n cael mynediad hawdd ac amserol at y sylfaen wybodaeth bresennol
- Nodi a blaenoriaethu'r ymchwil a fydd yn cefnogi cyflwyno'n rhaglenni trawsnewid strategol
- Sefydlu dulliau cydweithredu cryf â chyrff cyhoeddus a sefydliadau ymchwil eraill i gomisiynu ymchwilio newydd a gwneud ceisiadau am gyllid
Cenhadaeth 3: Sgiliau data
Sicrhau bod gan staff ac aelodau'r sgiliau data angenrheidiol i weithio'n fwy effeithlon a chyflwyno gwell canlyniadau.
- Datblygu gallu a medrusrwydd dadansoddwyr, swyddogion perfformiad, ysgrifenwyr adroddiadau ac eraill i gyflwyno data a dadansoddiadau’n glir ac yn effeithiol
- Rhoi rhaglen hyfforddiant ar waith mewn meysydd lle mae galw mawr (dylunio arolygon/casglu data, dadansoddi a delweddu, ansawdd data a chysylltu data)
- Creu cymunedau ymarfer i rannu gwybodaeth ac arfer gorau mewn pynciau sy'n gysylltiedig â data
Cenhadaeth 4: Dadansoddi a delweddu
Cefnogi'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau gyda dadansoddiadau a delweddu o ansawdd uchel fel y gallant fod yn hyderus eu bod yn gweld yr holl wybodaeth berthnasol a'u bod wedi'u grymuso i ddod o hyd i'r llwybr gorau posib sy'n cydbwyso anghenion a blaenoriaethau
- Dewis yr offer mwyaf priodol fel y gellir cael mynediad at allbynnau'n hawdd
- Defnyddio dadansoddiadau data ansoddol a meintiol
- Gweithio gydag arweinwyr y gwasanaeth i nodi bylchau
Cenhadaeth 5: Arloesedd
Archwilio ffyrdd newydd ac arloesol o ddefnyddio data a thechnoleg i ysgogi effeithlonrwydd ac ansawdd ein gwasanaethau
- Arbrofi gyda'r Rhyngrwyd Pethau, dysgu peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial arloesol
- Dysgu gan sefydliadau eraill
- Sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi i drosi syniadau blaengar yn welliannau mewn gwasanaethau ac effeithlonrwydd
- Bydd gwybod ein hasedau data yn ein galluogi i wneud penderfyniadau gwell a 'gweithio'n gallach'. Bydd gennym well dealltwriaeth o sut gall ein data gefnogi cyflwyno'n cynlluniau corfforaethol, a byddwn yn gallu blaenoriaethu gwelliannau i asedau data hanfodol.
- Bydd rheoli a gwella ansawdd ein hasedau data yn cynyddu ein gallu i ddibynnu arnynt ac ymddiried ynddynt, lleihau risgiau (o ran enw ac eraill) a chostau sy'n gysylltiedig â data o ansawdd gwael, lleihau dyblygu ac arbed amser i staff a defnyddwyr.
- Bydd mabwysiadu safonau data y cytunwyd arnynt gan y diwydiant ar draws y Cyngor yn ein helpu i gasglu data perthnasol, sicrhau cysondeb, integreiddio systemau mewnol yn ddidrafferth a chysylltu â setiau data agored allanol. Bydd hyn yn gwella gwerth ein data, yn hybu effeithlonrwydd ac yn lleihau gwallau drud.
- Bydd cysylltu setiau data yn darparu golwg ehangach, fwy cyfannol ac yn arwain at fewnwelediadau newydd nad oedd ar gael i ni o'r blaen.
- Bydd gwell dealltwriaeth o'r corff o wybodaeth ac ymchwil presennol yn galluogi uwch-reolwyr i seilio'u penderfyniadau ar dystiolaeth gadarn.
- Gyda'r ymchwil gywir bydd gennym well dealltwriaeth o brofiadau personol grwpiau na chlywir ganddynt yn aml. Bydd hyn yn caniatáu i ni roi gwell gwasanaethau iddynt.
- Bydd dadansoddi ein gwasanaethau a'u canlyniadau'n galluogi rheolwyr i ddeall a yw canlyniadau disgwyliedig i breswylwyr yn cael eu gwireddu.
- Pan gedwir ein data'n ddiogel, mae mwy o ymddiriedaeth yn y ffordd rydym yn ei ddefnyddio.
- Bydd yn hanfodol cydweithio ar draws ystod eang o sectorau a sefydliadau er mwyn cyflawni ein nodau oherwydd fel Cyngor, nid yw'r holl sgiliau hyn gennym yn fewnol.
- Bydd staff â'r sgiliau data cywir yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio data i gynllunio a chyflwyno gwasanaethau.
- Bod yn ystwyth: dechrau gyda phrosiectau bach eglur a datblygu lle y gellir cyflawni'r budd mwyaf.
- Dilyn argymhellion yr Asesiad Aeddfedrwydd Data.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i reoli setiau data hanfodol.
- Parhau i ddatblygu ein llwyfan gwyddor data i rannu allbynnau gwyddor data ar draws y Cyngor. Bydd yr allbynnau hyn yn amrywio o ddelweddu disgrifiadol i ddadansoddi ystadegol a modelu rhagfynegol.
- Cyfathrebu am ein gwaith i fwyafu ei fudd.
- Creu llwybrau gyrfa data a pharhau i sicrhau bod gan ein staff y sgiliau cywir drwy hyrwyddo hyfforddiant ym maes data a chreu cymunedau ymarfer.
- Meithrin cydweithredu cryf â phartneriaid o'r byd academaidd, iechyd cyhoeddus, cyrff statudol, sefydliadau gwirfoddol a'r gymuned i gyd-greu ymchwil newydd a fydd yn rhoi'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i lywio polisi ac arfer.
- Datblygu llywodraethu ymchwil hanfodol, medrusrwydd a gallu a gweithio tuag at sicrhau fod ein data yn barod ar gyfer ymchwil.
- Ystyried moeseg pan ddaw hi’n fater o ddata a phreifatrwydd a rhoi technoleg newydd ar waith.
Fel Cyngor, rydym yn dal llawer o ddata, sy'n cael ei gasglu a'i brosesu fel rhan o'n gweithgareddau dyddiol. Mae hyn yn cynnwys data ariannol (trethi, budd-daliadau, tai), data addysg (presenoldeb, gwaharddiadau, cyrhaeddiad, addysg uwch a hyfforddiant) a data amgylcheddol (parciau, ffyrdd, ansawdd aer, cyfeiriadau).
Nodwyd data ac ymchwil fel meysydd allweddol i'w datblygu ac yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac felly, maent wedi'u gwreiddio yn y Cynllun Corfforaethol. Mae hwn yn cynnwys rhaglen o alluogwyr newid, y mae un ohonynt yn nodi'n benodol yr angen i ymuno'r data a ddelir gennym a'i ddefnyddio i wella'n dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr.
Drwy ddatblygu diwylliant ar draws y sefydliad sy'n cydnabod ein data fel adnodd gwerthfawr, strategol y gellir ymddiried ynddo, byddwn yn gyrru'r defnydd ohono y tu hwnt i'r pwrpas cychwynnol y'i cesglir ar ei gyfer wrth sicrhau bod mesurau rheoli diogelu data cadarn ar waith. Bydd cyd-fynd â Fframwaith Moeseg Data Llywodraeth y DU hefyd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r egwyddorion hollgynhwysol gan gynnwys tryloywder, atebolrwydd a thegwch.

Byddwn yn hyrwyddo ymagwedd lle mae data yn fwyaf pwerus pan fydd o ansawdd uchel, o safon sy'n dderbyniol, yn ganfyddadwy, yn hygyrch, yn rhyngweithredol, yn cael ei gadw'n ddiogel ei rannu'n briodol a’i gysylltu â setiau data gweinyddol allanol.