Credyd Cynhwysol
Mae Credyd Cynhwysol (UC) yn arian rydych yn ei gael unwaith y mis i helpu gyda chostau byw. Mae ar gyfer pobl ar incwm isel neu’r rhai nad ydynt mewn gwaith.
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli rhai budd-daliadau ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio, gan gynnwys:
- Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Seiliedig ar Incwm
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant
- Budd-dal Tai
Mudo
Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyflwyno’n raddol. Mae pobl sy’n gwneud ceisiadau newydd yn ei chael yn gyntaf.
Bydd angen i bawb sy’n cael budd-daliadau hŷn drosglwyddo i Gredyd Cynhwysol yn nes ymlaen.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd angen i chi newid i Gredyd Cynhwysol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am symud i Gredyd Cynhwysol ar GOV.UK.
Ceisiadau
Os nad oes gennych gyfrifiadur na mynediad i’r rhyngrwyd, gallwch ddefnyddio un yn eich Canolfan Byd Gwaith neu yn eich llyfrgell leol.
Gall Credyd Cynhwysol gynnwys arian i helpu i dalu eich rhent. Weithiau, caiff yr arian hwn ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord.
Budd-dal Tai
Bydd angen i chi ddal i wneud cais am Fudd-dal Tai i gael help gyda thalu eich rhent os ydych:
- yn byw mewn llety dros dro neu lety â chymorth
- yn ddigon hen i gael Pensiwn y Wladwriaeth
Cymorth Treth y Cyngor
Os oes angen help arnoch i dalu Treth y Cyngor, bydd angen i chi barhau i wneud cais am Gymorth Treth y Cyngor.
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch hefyd ofyn am
Rhowch wybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar eich ffurflen.
Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol ond bod angen help ychwanegol arnoch i dalu eich rhent, efallai y gallwch gael arian ychwanegol. Gelwir hyn yn Daliad Tai yn ôl Disgresiwn.