Gwneud cais am Fudd-dal Tai a Chymorth Treth Gyngor
Bydd ceisiadau newydd am help gyda chostau tai ar gyfer pobl o oedran gweithio nawr yn cael eu gwneud drwy Gredyd Cynhwysol.
I gael help a gwybodaeth, ewch i:
Dim ond os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn byw mewn llety â chymorth, llety gwarchod neu lety dros dro
Prawf adnoddau
Mae'n "fudd-dal sy'n seiliedig ar brawf adnoddau" - rydym yn gwirio sefyllfa ariannol person i benderfynu faint o gymorth y gallant ei gael.
Bydd faint o Fudd-dal Tai y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar:
- eich incwm, eich cynilion a’ch buddsoddiadau
- nifer y bobl yn eich cartref
- y gyfradd briodol o Lwfans Tai Lleol (os yw’n berthnasol)
Fel arfer, byddwn yn talu budd-dal o’r dydd Llun ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen gais.
Dylech wneud cais am Fudd-dal Tai cyn gynted â phosibl. Ni fydd y budd-dal yn cael ei dalu o ddyddiad cynharach oni bai bod rheswm arbennig.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, rhaid i chi ofyn am ôl-ddyddio yn ysgrifenedig a rhoi esboniad pam na wnaethoch wneud cais mewn pryd. Os oes gennych reswm dilys, byddwn yn ystyried ôl-ddyddio eich budd-dal fesul achos unigol.
Ni allwch gael Budd-dal Tai nes eich bod wedi symud i mewn i’ch cartref newydd, felly bydd angen i chi dalu’r rhent eich hun tan hynny. Fodd bynnag, mae eithriadau, felly mae’n werth cysylltu â’r tîm budd-daliadau i gael cymorth.
Gwybodaeth ategol
Rhaid i chi ddarparu gwybodaeth ategol a thystiolaeth gyda’ch cais. Rhaid i’r rhain fod yn ddogfennau gwreiddiol, nid llungopïau.
Fel arfer, bydd angen i ni weld:
- dau ddarn o dystiolaeth sy’n profi pwy ydych
- un ddogfen sy’n dangos eich rhif Yswiriant Gwladol (a rhif eich partner, os oes angen)
- tystiolaeth o’ch holl incwm
- tystiolaeth o’ch holl gynilion a’ch buddsoddiadau
- tystiolaeth o incwm unrhyw un sy’n byw gyda chi nad yw’n ddibynnol arnoch yn ariannol
Mae’r ffurflen gais yn rhoi manylion am y math o dystiolaeth rydym yn ei derbyn.
Dylech wneud eich cais cyn gynted â phosibl. Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth ategol pan fyddwch yn gwneud eich cais, gallwch ei hanfon yn nes ymlaen. Rhaid i ni dderbyn y dystiolaeth hon o fewn un mis calendr o’r dyddiad y gwnaethoch eich cais.
Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i brosesu eich cais, bydd oedi cyn talu’ch budd-dal.
Cynilion a Chyfalaf
Rhaid i chi roi gwybod i ni am eich holl gynilion a’ch buddsoddiadau.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- yr arian sydd gennych mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (hyd yn oed os yw’ch cyfrif mewn gorddrafft)
- tir neu eiddo rydych yn berchen arno, heblaw am y cartref rydych yn byw ynddo
- stociau a chyfranddaliadau
- bondiau premiwm
- tystysgrifau cynilion cenedlaethol
- cyfrifon ISA
- cyfrifon Swyddfa’r Post
Nid yw hon yn rhestr gyflawn, a’i bwriad yw rhoi enghreifftiau’n unig o’r hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni amdano.
Effaith ar fudd-dal
Os oes gennych fwy na £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau, fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael budd-daliadau.
Os ydych o oedran pensiwn, ni fydd y £10,000 cyntaf yn cael ei gyfrif.
Os ydych yn cael Credyd Gwarant gan y Gwasanaeth Pensiwn, nid yw’r terfyn cynilion o £16,000 yn berthnasol. Gallwch barhau i gael budd-daliadau hyd yn oed os yw’ch cynilion yn fwy na’r swm hwn.
Nid yw rhai mathau o gynilion a buddsoddiadau yn cael eu cyfrif wrth gyfrifo eich budd-daliadau. I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Adran Fudd-daliadau.
Oedolion sy’n agored i niwed
Byddwn fel arfer yn talu eich Budd-dal Tai i’ch cyfrif banc bob pythefnos. Ar ôl hyn, ni fyddwch yn gallu dewis i’r taliad gael ei anfon yn uniongyrchol at eich landlord mwyach.
Os ydym yn credu y gallech gael trafferth talu eich rhent neu reoli eich arian, efallai y byddwn yn talu’r budd-dal yn uniongyrchol i’ch landlord yn lle hynny.
Os ydych yn teimlo na allwch reoli eich arian, gallwch ofyn i ni am help. Bydd angen i chi lenwi ffurflen a darparu tystiolaeth berthnasol. Mae hyn yn ein helpu i benderfynu a ddylem eich ystyried yn oedolyn sy’n wynebu risg a thalu eich rhent yn uniongyrchol i’ch landlord.
Gall pobl a allai gael eu hystyried yn oedolion sy’n wynebu risg gynnwys y rhai:
- â phroblemau dysgu
- sydd â phroblemau ariannol difrifol
- â namau neu anableddau corfforol
Byddwn yn ystyried pob achos yn unigol cyn gwneud penderfyniad.
Newid mewn amgylchiadau
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai ac mae rhywbeth yn eich bywyd yn newid, rhaid i chi ysgrifennu atom i roi gwybod i ni. Hyd yn oed os ydych wedi rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r tîm Budd-dal Tai hefyd.
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni amdanynt:
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith
- rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i weithio
mae newid yn eich cartref (er enghraifft, os yw rhywun yn symud i mewn neu allan) - rydych yn gadael yr eiddo
- mae swm eich cynilion neu’ch buddsoddiadau yn newid
- mae newid yn eich incwm
- mae newid yn incwm rhywun sy’n byw gyda chi (fel mab neu ferch sy’n oedolyn). Gelwir y person hwn yn ‘ddibynnydd nad yw’n ddibynnol arnoch yn ariannol’
Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Gall llawer o newidiadau eraill yn eich bywyd hefyd effeithio ar eich budd-dal. Os oes rhywbeth yn newid ac nad ydych yn siŵr a oes angen rhoi gwybod i ni, cysylltwch â’r tîm Budd-daliadau. Byddwn yn gwirio ac yn rhoi gwybod i chi.
Rhaid i chi ysgrifennu atom i roi gwybod am unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, gallwch ffonio’r tîm Budd-daliadau yn gyntaf i roi gwybod i ni beth sydd wedi newid.
Gordaliadau
Os ydych yn dal i gael Budd-dal Tai ac rydych wedi cael gordaliad o’r blaen, byddwn yn tynnu swm llai o’ch budd-dal bob wythnos nes bydd y gordaliad wedi’i ad-dalu’n llawn.
Mae’r llywodraeth yn pennu faint y gallwn ei didynnu bob wythnos, a gall y swm hwn newid bob blwyddyn.
Os nad ydych bellach yn cael Budd-dal Tai ac rydych wedi cael gordaliad, byddwn yn anfon anfoneb atoch i ad-dalu’r arian ychwanegol.
Sut i dalu
Mae’n rhaid dyfynnu rhif yr anfoneb fel cyfeirnod ar bob taliad a phob gohebiaeth.
Gallwch dalu eich anfoneb mewn sawl ffordd:
Drwy Ddebyd Uniongyrchol
Dyma’r ffordd a argymhellir (a’r hawsaf) o dalu eich bil ar ddiwrnod 1 bob mis.
Gallwch nawr sefydlu Debyd Uniongyrchol dros y ffôn – ffoniwch yr Adran Gordaliadau ar (01639) 686839.
Drwy’r post
Anfonwch at:
Y Swyddfa Arian
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Y Ganolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ
Gwnewch sieciau’n daladwy i “N.P.T.C.B.C” neu “Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot” a ysgrifennwch rif eich anfoneb, eich enw a’ch cyfeiriad ar gefn y siec.
Dros y ffôn (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd i dalu dros y ffôn 24/7.
Ffoniwch: 0161 622 6919
Yn Swyddfa’r Post
Bydd angen i chi gymryd yr anfoneb / nodyn atgoffa hwn gyda chi bob tro y byddwch yn gwneud taliad.
Ar-lein
Gallwch dalu’n gyflym ac yn ddiogel ar-lein.
Defnyddiwch eich cerdyn debyd a sicrhewch fod eich bil a’ch rhif cyfeirnod gyda chi.
Methu fforddio talu
Gallwn wneud trefniant i chi ad-dalu’r gordaliad mewn rhandaliadau.
Os ydych am ad-dalu’r arian mewn symiau bach, penderfynwch faint y gallwch ei dalu a ffoniwch ni ar 01639 686839 i drafod hyn.
Gallwch hefyd ysgrifennu atom i wneud cynnig ynghylch sut yr hoffech dalu’r arian yn ôl. Os ydym o’r farn bod eich cynnig yn rhesymol, efallai y gallwn gytuno ar y trefniadau ad-dalu ar unwaith.
Os na allwn wneud hynny, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen incwm a gwariant fel y gallwn benderfynu a allwn dderbyn eich cynnig.
Gwneud cais am Fudd-dal Tai
Rhaid i chi, eich partner, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan lenwi’r cais am Fudd-dal Tai.
Dychwelwch y ffurflen wedi’i llenwi ar unwaith i un o’r swyddfeydd canlynol:
- Yr Adran Fudd-daliadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Y Ganolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11 3QZ
- Yr Adran Fudd-daliadau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ
Os oes angen help arnoch gyda’r ffurflen, gallwch alw heibio i unrhyw un o’r swyddfeydd uchod, a bydd swyddog yn eich helpu i wneud eich cais.