Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT)
Mae'r term Sipsiwn Roma Teithwyr (SRT) yn disgrifio gwahanol grwpiau ethnig a diwylliannol.
Maent yn aml yn rhannu heriau tebyg o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a phrofi gwahaniaethu.
Mae gan bob grŵp eu traddodiadau, arferion ac ieithoedd eu hunain.
Sipsiwn a Theithwyr
Wedi’u diffinio fel grwpiau lleiafrifoedd ethnig, mae’r cymunedau hyn yn cynnwys:
- Sipsiwn Romani Seisnig a Chymreig a theithwyr Albanaidd (sydd hefyd yn grŵp Romani)
- Roma o Ddwyrain Ewrop
- Teithwyr Gwyddelig
Gall rhai teithwyr fyw mewn cartref, carafán, cwch, neu gerbyd oherwydd traddodiad teuluol neu gynefindra.
Mae eraill yn teithio i chwilio am fywyd gwell, am resymau economaidd neu amgylcheddol.
Mae'r teithwyr hyn yn cynnwys:
- syrcas neu bobl sioe
- preswylwyr cychod
- teithwyr newydd
- preswylwyr cerbydau
Cyrraedd yr ardal
Pan fyddwch yn cyrraedd yr ardal gallwn eich helpu:
- gwneud cais am le mewn ysgol
- dod o hyd i safle teithwyr
- ymweld a siarad ag ysgol newydd eich plentyn
- gyda materion lles megis grantiau ysgol, ceisiadau a chludiant
Safleoedd i deithwyr
Mae gennym ddau safle SRT i deithwyr. Mae warden yn byw ar bob safle ac mae ein Swyddog Cyswllt yn ymweld yn aml.
Safle teithwyr Llansawel
Mae gan Lansawel ddau safle bach gyda chyfanswm o 29 o leiniau. Mae'r lleoliad yn ddelfrydol oherwydd ei:
- ysgolion lleol
- siopau a chyfleusterau lleol
- cysylltiadau trafnidiaeth
- canolfan feddygol
Safle teithwyr Cae Garw, Margam
Mae Cae Garw yn safle mwy, yn anghysbell gyda 38 o leiniau. Mae’r safle ar lwybr bws rheolaidd gyda thaith fer i:
- ysgol gynradd leol
- siopau a chyfleusterau lleol
- meddygfa
- gorsaf drenau
Gwnewch gais am le ar safle teithwyr
I wneud cais am le ar un o’n safleoedd, bydd angen i chi gysylltu â’n Hadran Ystadau.
Cysylltwch â ni
Mae rhagor o gyngor ar gael ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru yn TGP Cymru.