Cefnogaeth mewn argyfwng
Os oes angen mynediad brys arnoch at fwyd neu os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref, mae cymorth ar gael.
Digartrefedd
Os ydych chi mewn perygl o ddod yn ddigartref neu'n ddigartref ar hyn o bryd, cysylltwch â'n Gwasanaethau Asesu, Atal a Chymorth Digartrefedd (HAPSS).
Banciau bwyd
I gael mynediad brys at fwyd, gweler ein rhestr o fanciau bwyd lleol.
Banc babanod
Ymddiriedolaeth Bethel
Gall Banc Babanod Ymddiriedolaeth Bethel (Port Talbot) helpu rhieni newydd sy'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddillad babanod am ddim (newydd-anedig hyd at 24 mis):
- offer
- blancedi
- phethau ymolchi hanfodol
YMCA Castell-nedd
Mae banc babanod YMCA Castell-nedd yn helpu i leddfu'r baich ar deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd trwy helpu i ddarparu anghenion sylfaenol eu plant.