Adolygiad Disgownt Person Sengl
Trosolwg
Rydym yn adolygu disgowntau person sengl y Dreth Gyngor er mwyn helpu i ganfod hawliadau twyllodrus.
Bydd unrhyw un y canfyddir ei fod yn hawlio disgownt yn dwyllodrus yn colli'r disgownt, a byddwn yn ôl-ddyddio'r newid cyn belled ag y mae'r dystiolaeth yn ei gefnogi. Gallwn osod cosb sifil neu, mewn achosion difrifol, erlyn y rhai y canfyddir eu bod yn twyllo'r system.
Os ydych wedi cael llythyr adolygu
Os ydych wedi cael llythyr adolygu, rhowch wybod i ni am eich amgylchiadau presennol er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion.
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o gwblhau eich adolygiad yw ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif cyfrif eich Treth Gyngor
- eich cod post
- eich PIN unigryw
Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth hon yn y llythyr neu'r e-bost rydym wedi'i anfon atoch.