Egluro eich bil Treth y Cyngor
Er ei fod yn cael ei alw’n fil Treth y Cyngor, nid yw’r swm a godir arnoch i gyd yn dod i Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Mae hefyd yn cynnwys taliadau am wasanaethau a ddarperir gan sefydliadau eraill. Mae'r cyngor yn gweithio fel asiant casglu ac yn casglu'r taliadau hyn ar eu rhan. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros y taliadau hyn.
- y tâl ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
- tâl ar gyfer eich Cyngor Tref neu Gymuned, os ydych yn byw mewn ardal sydd ag un
Mae'r ddelwedd hon yn dangos enghraifft o fil treth gyngor. Mae pob adran sydd wedi'i rhifo yn cael ei hegluro'n fanwl ar ôl y ddelwedd.


Beth mae pob adran rifol yn ei olygu
- Enw'r person neu'r bobl sy'n gyfrifol am dalu'r bil.
- Dyddiad argraffu eich bil treth gyngor. Ni fydd unrhyw daliadau a wneir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu dangos ar y bil hwn.
- Dyma eich rhif cyfrif Treth Cyngor. Ceisiwch gael y rhif hwn gyda chi os oes angen i chi gysylltu â ni neu wrth wneud taliad.
- Ym mha fand treth cyngor mae eich eiddo.
- Y cyfeiriad bilio.
- Y flwyddyn ariannol ar gyfer y bil hwn.
- Eich cyfraniad at wasanaethau’r cyngor.
- Eich cyfraniad tuag at eich Cyngor Tref neu Gymuned, os ydych yn byw mewn ardal sydd ag un.
- Eich cyfraniad at Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
- Dyma'r swm sy'n ddyledus gennych cyn unrhyw ostyngiadau.
- Dyma'r cyfnod o amser y mae'r bil yn ei gwmpasu.
- Mae unrhyw ostyngiadau a roddir i'ch bil yn cael eu dangos yma.
- Dyma gyfanswm y dreth gyngor y mae angen i chi ei thalu.
- Mae hyn yn dangos y dull talu rydych wedi'i sefydlu. Y ffordd hawsaf o dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol ond mae ffyrdd eraill o dalu.
- Dyma fanylion y rhandaliadau, y symiau sy'n ddyledus a dyddiadau pryd mae angen i chi dalu pob rhandaliad.
Ar gefn eich bil Treth y Cyngor
Mae gan gefn eich bil treth gyngor wybodaeth sy'n cynnwys sut i:
- rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau
- gwneud cais am ostyngiadau
- apêl