Gostyngiad i weithwyr gofal
Gellir eich dosbarthu fel gofalwr at ddibenion Treth y Cyngor os byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:
- rhaid i chi fyw yn yr un tŷ â’r person rydych yn gofalu amdano
(ni all y person hwn fod yn briod neu’n bartner sifil, nac yn blentyn neu lysblentyn dan 18 oed) - rhaid i chi ddarparu o leiaf 35 awr o ofal yr wythnos i’r person hwnnw
- rhaid i’r person rydych yn gofalu amdano dderbyn o leiaf un o’r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Gweini cyfradd uwch
- Lwfans Byw i’r Anabl – elfen gofal, ar y gyfradd uchaf, neu y gyfradd ganolig
- Pensiwn analluogrwydd uwch
- Lwfans Gweini Cyson
- Taliad Annibyniaeth Bersonol – elfen bywyd bob dydd, ar y gyfradd safonol, neu y gyfradd uwch
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog