Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Methu talu eich Treth Gyngor

Os ydych yn derbyn llythyr am dreth y cyngor heb ei thalu, peidiwch â'i anwybyddu – bydd ond yn gwneud pethau'n waeth a bydd y swm sy'n ddyledus yn cynyddu. Cysylltwch â ni fel y gallwn geisio helpu. 

Llythyrau atgoffa

Byddwch yn talu'ch treth y cyngor mewn rhandaliadau misol. Bydd swm pob rhandaliad a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i chi ei dalu'n cael ei ddangos ar eich bil. Os ydych yn colli taliad, byddwn yn anfon llythyr atgoffa atoch.

Os nad yw'r taliad sy'n ddyledus yn cael ei dalu ar ôl hynny, byddwn yn anfon llythyr atgoffa terfynol yn gofyn i chi sicrhau bod eich taliadau'n gyfredol. Os nad ydym yn derbyn y swm sy'n ddyledus ac nad ydych wedi cysylltu â ni i ddatrys y sefyllfa, bydd angen i ni gyflwyno gwŷs llys ar gyfer y balans llawn am y flwyddyn, ynghyd ag unrhyw gostau. Rydym wir eisiau osgoi hyn lle bynnag y bo modd.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd talu neu'n meddwl y gallech fod yn hwyr yn talu, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu a byddwn yn gwneud ein gorau glas i weithio gyda chi i ddod o hyd i ateb.

Os ydych yn profi anawsterau ariannol, mae asiantaethau ar gael a allant helpu.

Cofrestwch ar gyfer ein gwasanaeth atgoffa negeseuon testun

Byddwch yn derbyn neges destun dim ond os oes rhaid i ni anfon neges atoch i'ch atgoffa bod eich Treth y Cyngor heb ei thalu.

Bydd y neges yn dangos mai 'CBSCNPT' sydd wedi anfon y neges a bydd yn rhoi dolen i chi dalu drwy'n gwefan ddiogel.

Sylwer, er y byddwn yn ymdrechu i anfon neges destun i'ch atgoffa, ni ddylech ddibynnu ar hwn a dylech bob amser wneud yn siŵr eich bod yn talu'ch Treth y Cyngor erbyn y dyddiad priodol.

Gwysion

Os byddwch yn derbyn gwŷs, bydd yn ofynnol i chi dalu'r swm sy'n ddyledus, yn ogystal ag unrhyw gostau, ar unwaith. Os nad ydych yn talu'r balans cyfan cyn dyddiad y gwrandawiad, bydd y cyngor yn cyflwyno cais i'r llys ynadon am orchymyn atebolrwydd a chostau gorchymyn atebolrwydd ychwanegol.

Peidiwch â phoeni os na allwch dalu'r balans yn llawn gan y byddwch yn dal i gael y cyfle i sefydlu trefniant talu ar gyfer y balans sy'n weddill, gan gynnwys y costau. Pan fydd trefniant ar waith, mae'n bwysig cadw i fyny â'r taliadau y cytunwyd arnynt fel nad oes angen camau adennill ychwanegol. 

Camau adennill ychwanegol

Os nad ydych yn cysylltu â ni i drefnu taliad, neu os ydych yn gwneud trefniad ond yn methu cadw at y taliadau y cytunwyd arnynt, efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ffyrdd eraill o gasglu'r hyn sy'n ddyledus. Gall y rhain gynnwys:

  • cymryd taliadau'n uniongyrchol o'ch cyflog (atafaelu enillion)
  • cymryd taliadau'n uniongyrchol o'ch budd-daliadau (atafaelu budd-daliadau)
  • defnyddio asiantau gorfodi (beilïaid yn flaenorol) 

Os caiff eich cyfrif ei drosglwyddo i asiantau gorfodi, efallai y byddant yn ychwanegu eu ffioedd eu hunain, ac mae ganddynt hefyd bwerau cyfreithiol i adennill y ddyled. Rydym bob amser yn ceisio osgoi hyn lle bo'n bosib, a dyna'r rheswm pam mae cadw mewn cysylltiad â ni mor bwysig.

Mewn sefyllfaoedd mwy difrifol, efallai y bydd yn rhaid ystyried y canlynol:

  • gosod gorchymyn tâl ar eich tŷ
  • gwneud cais i'ch gwneud yn fethdalwr

Rhannu eich Adborth