Talu Treth y Cyngor
Debyd Uniongyrchol
Os ydych wedi derbyn nodyn atgoffa, hysbysiad terfynol, gwŷs neu unrhyw gamau gorfodi eraill NI ddylech lenwi'r ffurflen Debyd Uniongyrchol ar-lein ond cysylltwch â ni yn ddi-oed.
Debyd Uniongyrchol yw'r dull hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu. Gallwch dewis yn talu ar y 1af, 16eg neu'r 28ain o bob mis.
Bydd angen:
- eich cyfeirnod arnoch chi
- enw'r banc, rhif y cyfrif, cod didoli
- enw'r cyfrif
I newid manylion Debyd Uniongyrchol, cyflwynwch ffurflen newydd neu cysylltwch â ni.
Taliad ar-lein
Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gellir ei wneud trwy'ch cerdyn debyd neu credyd.
Bydd angen eich cyfeirnod Treth y Cyngor arnoch chi.
Problemau wrth wneud taliad
Os oes gennych unrhyw broblemau wrth wneud taliad, rhowch gynnig ar y canlynol:
- diweddarwch eich porwr i'r fersiwn ddiweddaraf, neu defnyddiwch borwr arall
- ceisiwch ddefnyddio modd preifat neu gyfrinachol
Ffyrdd eraill i dalu eich Treth y Cyngor
Ffôn
Defnyddiwch ein rhif llinell dalu 24 awr 0161 622 6919.
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnom:
- eich cyfeirnod Treth y Cyngor
- manylion eich cerdyn
Swyddfa bost
Gallwch dalu yn unrhyw Swyddfa'r Post. Dim ond swm llawn y rhandaliad sy'n ddyledus y gallwch ei dalu. Rhaid i chi fynd â'ch bil Treth y Cyngor gyda chi bob tro y gwnewch daliad. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd eich taliad yn cyrraedd eich cyfrif am ychydig ddyddiau.
Taliadau siec
Dylech bostio taliadau siec i'r:
Yr Ariannwr
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Canolfan Ddinesig
Port Talbot
SA13 1PJ
Gwnewch sieciau'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot a sicrhewch eich bod yn nodi eich cyfeirnod Treth y Cyngor a'ch enw a'ch cyfeiriad ar gefn eich siec.