Cymorth i'r di-Gymraeg
Cymorth gyda gwaith cartref
I ddisgyblion iau, bydd cyfarwyddiadau gwaith cartref yn Saesneg a Chymraeg. Bydd plant hŷn yn gallu esbonio eu gwaith i'w rhieni eu hunain.
Bydd staff yr ysgol hefyd yn gallu helpu os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Sgiliau iaith Saesneg
Ni fydd dysgu Cymraeg yn niweidio Saesneg eich plentyn a gall hyd yn oed ei helpu i wella.
Mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dal i astudio Saesneg fel pwnc. Byddant yn cyrraedd yr un safon o Saesneg â'r rhai mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg.
Mae cwricwlwm Saesneg TGAU a Safon Uwch yr un peth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
Newydd-ddyfodiaid a throchiad hwyr
Canolfan Iaith y Cwm yn ganolfan trochi iaith Gymraeg. Mae'n darparu cyrsiau i blant 7-11 oed:
- sydd newydd i'r Gymraeg
- sydd eisoes mewn addysg cyfrwng Cymraeg
Bydd y ganolfan yn datblygu sgiliau iaith eich plentyn ac yn rhoi hyder iddynt wrth ddefnyddio'r Gymraeg.