Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau Cymru baratoi cynllun sy'n nodi sut y byddant yn datblygu addysg cyfrwng Cymraeg.
Mae ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn manylu ar sut rydym yn ein hysgolion:
- yn cymryd dull rhagweithiol a chynhwysol o hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg
- yn cynllunio i gefnogi a datblygu addysg iaith Gymraeg ymhellach
- yn bwriadu ystyried twf yn y dyfodol
Ein gweledigaeth
Y cynllun hwn yw conglfaen ein gweledigaeth ar gyfer:
- cynyddu a gwella cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg
- datblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr
- galluogi dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg yn hyderus ym mywyd beunyddiol
Mae'n ategu'r weledigaeth genedlaethol i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Darllenwch fwy am Cymraeg 2050 ar llyw.cymru.