Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Manteision addysg cyfrwng Cymraeg

Mae llawer o fanteision i addysg ddwyieithog. Mae pobl ddwyieithog:

  • yn cael mwy o gyfleoedd i gymdeithasu
  • yn ei chael hi'n haws dysgu ieithoedd erail
  • yn meddwl mewn ffordd fwy hyblyg a chreadigol
  • yn dda iawn am ddadansoddi data ac amldasgio

Mae plant dwyieithog yn tueddu i berfformio'n well yn yr ysgol ac mewn arholiadau.

Cymraeg yn y gweithle

Yng Nghymru, mae galw cynyddol am sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle. Mae'r gallu i siarad Cymraeg naill ai'n sgil hanfodol neu'n sgil ddymunol ar gyfer nifer gynyddol o swyddi.

Mae pobl ddwyieithog hefyd yn tueddu i ennill mwy ar gyfartaledd na rhywun sy'n siarad un iaith.

Meddwl am addysg Gymraeg i dy blentyn?