Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Siarter yr Iaith Gymraeg

Mae ein Siarter Iaith Gymraeg yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus. Mae'n annog defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol y tu mewn a'r tu allan i'r ysgol.

Mae'r Siarter yn darparu strwythur i ysgolion ei ddilyn i gyflawni tair lefel o wobrwyo:

  • Efydd
  • Arian
  • Aur

Ymdrech gymunedol yw'r Siarter! Gall hyrwyddo amgylchedd Cymraeg ei iaith gynnwys:

  • rhieni a gofalwyr
  • aelodau o'r teulu
  • ffrindiau
  • athrawon, llywodraethwyr a staff ysgol eraill