Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Diwygio statudol

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o 0 i 25 oed.

Mae'n disodli'r gyfraith bresennol sy'n ymwneud ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac asesu plant a phobl ifanc ag Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu mewn addysg a hyfforddiant ar ôl 16.

Mae'r Ddeddf statudol yn darparu ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ag ADY. Bydd y rhain yn disodli Datganiadau AAA a Chynlluniau Addysg Unigol gyfredol. Mae hefyd yn ceisio gwella cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn ogystal â sefydlu system decach a mwy tryloyw, sydd â mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfodau.

Bydd y gyfraith bresennol yn cael ei diddymu'n llwyr erbyn 2024 ac mae Swyddogion Cynhwysiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrthi'n gweithio o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion, a gwasanaethau allweddol eraill, wrth baratoi ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil y gyfraith newydd.

Rhagor o wybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) ar wefan Llywodraeth Cymru ac mae dogfennau defnyddiol eraill ar gael yma.