Anghytundebau, pryderon a chwynion
Anghytundebau gyda'r ysgol neu'r cyngor
Os ydych yn anhapus â darpariaeth ADY eich plentyn, dylech siarad yn gyntaf â’r:
- athro dosbarth
- Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol (CydADY)
- Prifathro / Prifathrawes
Os nad yw hyn yn bosibl, neu os oes angen rhagor o gyngor arnoch ar ôl siarad â nhw, gallwch gysylltu â:
Gwneud cwyn
Os na ellir dod o hyd i ateb, efallai y byddwch am wneud cwyn ffurfiol. Bydd angen i chi ddilyn gweithdrefnau gwahanol yn dibynnu ar y math o gŵyn.
Am yr ysgol
Mae gan bob ysgol ei pholisi cwynion ei hun y bydd angen i chi ei ddilyn. Bydd hwn fel arfer ar eu gwefan, neu gallwch ofyn am gopi caled gan ysgol eich plentyn.
Am y cyngor
Bydd angen i chi ddilyn ein Polisi Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion.
Pryderon am ofal neu driniaeth y GIG
Os ydych yn anhapus â gwasanaeth a ddarperir gan y GIG, siaradwch â'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal neu'ch triniaeth.
Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith. Os na fydd hyn yn helpu, mae manylion am sut i fynegi pryder ar gael yn nhaflen Gweithio i Wella’r GIG.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddogion Pontio a Phartneriaeth: ALNSS@npt.gov.uk