Gofyn am Gynllun Datblygu Unigol
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae gan blant a phobl ifanc ADY os ydynt:
- ei chael yn anoddach dysgu na phlant eraill o'r un oed
- ag anabledd sy'n eu hatal rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer addysg neu hyfforddiant o fath a ddarperir yn genre ar gyfer eraill o'r un oedran
AC
mae'r anhawster dysgu neu'r anabledd hwn yn galw am Ddarpariaeth Dysgu Ychwanegol (DdA). Bydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn cael ei chynnwys mewn cynllun cymorth a elwir yn Gynllun Datblygu Unigol.
Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Bydd gan bob CDU yr un strwythur sylfaenol ac yn cynnwys elfennau allweddol, gan gynnwys:
- proffil un dudalen
- crynodeb o anghenion
- canlyniadau a chefnogaeth y cytunwyd arnynt
Bydd gan CDU a gynhelir gan ysgol ac un a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol (ALl) yr un statws cyfreithiol.
Plant cyn oed ysgol
Cael cefnogaeth gam wrth gam
Cam 1
Os ydych chi’n meddwl bod gan eich plentyn ADY, siaradwch yn gyntaf â’ch:
- ymwelydd iechyd
- Meddyg Teulu
- gweithwyr proffesiynol eraill
Os yw'ch plentyn yn mynychu'r cylch chwarae, siaradwch ag arweinydd y cylch chwarae.
Cam 2
Unwaith y byddwch wedi amlygu eich pryderon, gellir gwneud atgyfeiriad i'r ALl. Byddwn wedyn yn penderfynu a oes gan eich plentyn ADY, ac, os oes angen, yn datblygu a chynnal CDU. Mae hon yn broses 12 wythnos.
Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar
Mae Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar yn cydlynu ein rôl mewn perthynas â phlant 0-5 oed nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir.
Maent yn gweithio gyda:
- rhieni / gofalwyr
- lleoliadau blynyddoedd cynnar
- gweithwyr iechyd proffesiynol
- pob asiantaeth arall sy'n gweithio gyda phlant o dan oedran ysgol gorfodol sydd ag ADY sy'n dod i'r amlwg neu wedi'i nodi
Ein rôl yw:
- codi ymwybyddiaeth o systemau ADY
- hyrwyddo ymyrraeth gynnar
- darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth a chyngor ADY mewn lleoliadau cyn-ysgol
- cefnogi datblygiad cynlluniau ar gyfer plant ag anghenion difrifol a chymhleth
- helpu plant sydd ag ADY sy’n dod i’r amlwg neu wedi’u nodi i drosglwyddo i leoliadau addysgol ac ysgolion newydd
Plant oed ysgol
Cael cefnogaeth gam wrth gam
Cam 1
Os ydych chi'n meddwl bod gan eich plentyn ADY, siaradwch yn gyntaf â'u hathro dosbarth. Bydd eisiau siarad â chi am ffyrdd o helpu eich plentyn.
Mae gan bob ysgol Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) hefyd. Gallant roi cyngor a chymorth i:
- staff yr ysgol
- rhieni
- plant
Cam 2
Unwaith y byddwch wedi amlygu eich pryderon mae’n rhaid i’r ysgol benderfynu a oes gan eich plentyn ADY.
Os ydynt yn cytuno, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i greu CDU.
Y broses o wneud penderfyniadau yn yr ysgol
Mae'r ALl wedi cynhyrchu dogfen Egwyddorion a Disgwyliadau, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau yn yr ysgol.
Llawrlwythiadau
-
Dogfen 'Egwyddorion' Anghenion Dysgu Ychwanegol Castell-nedd Port Talbot (1) (DOCX 1.66 MB)
-
Dogfen 'Disgwyliadau' Anghenion Dysgu Ychwanegol Castell-nedd Port Talbot (1) (DOCX 193 KB)
CDU a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol (ALl)
Mewn rhai achosion, bydd yr ALl yn gwneud penderfyniadau ar ADY ac yn paratoi CDU. Mae’r achosion hyn yn cynnwys y dysgwyr hynny sydd:
- â'r anghenion mwyaf cymhleth neu ddifrifol
- sy'n Derbyn Gofal gan yr ALl
- wedi cofrestru'n ddeuol (wedi cofrestru mewn mwy nag un ysgol)
Anghytundebau
Dylech siarad â’r ysgol os:
- nad ydych yn cytuno bod gan eich plentyn ADY
- rydych yn anfodlon â CDU eich plentyn
Gallwch hefyd ofyn i’r ALl ailystyried penderfyniad yr ysgol.