Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwasanaethau Lles ac Ymddygiad a Chynydd

Cwrdd â'r timau

Mae ein timau profiadol yn cefnogi:

  • disgyblion ag anghenion sy'n ymwneud ag Ymddygiad, Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol (AYEC)
  • eu teuluoedd
  • ysgolion a staff

Mae’r timau’n cynnwys gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys:

  • addysgu
  • gwaith ieuenctid
  • therapïau
  • darpariaethau arbenigol AYEC
  • cwricwlwm amgen
  • gwasanaethau teulu
  • trawma ac adfyd
  • camddefnyddio sylweddau
  • cyfiawnder ieuenctid

Yr hyn a wnawn

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i fynd i'r afael ag anghenion ysgolion a disgyblion ag AYEC.

Cefnogaeth i ddisgyblion

Rydym yn cefnogi disgyblion trwy ymyriadau targedig. Rydym yn cynnig cymorth wedi’i deilwra iddynt y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol.

Cefnogaeth i ysgolion a staff

Rydym yn helpu ysgolion i ddatblygu dulliau ysgol gyfan effeithiol. Rydym yn darparu:

  • cyngor
  • strategaethau ymarferol i staff
  • hyfforddiant
  • modelu arferion gorau

Mynediad i’n gwasanaethau

Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad

Dylai ysgolion lenwi ffurflen gais electronig. Rhaid iddynt gael caniatâd rhieni yn gyntaf.

Dylai rhieni/gofalwyr siarad â’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn ysgol eich plentyn.

Gwasanaeth Cynnydd

Mae Gwasanaeth Cynnydd ar gael i ysgolion uwchradd trwy system atgyfeirio fewnol. Rhaid iddynt gael caniatâd rhieni yn gyntaf.