Hepgor gwe-lywio

Pontio ôl-16

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae symud o'r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16 yn gam mawr i bobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau i helpu pobl ifanc ag ADY yn ystod y cyfnod pontio hwn.

Addysg Bellach (AB)

Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc ag ADY yn mynd i golegau AB neu raglenni hyfforddi.

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau a gwasanaethau cymorth ar gael i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn dilyn y Cod ADY i benderfynu ar y llwybr gorau i bob dysgwr.

 Lle bynnag y bo modd, dylai pobl ifanc gael mynediad at addysg a hyfforddiant ôl-16 lleol.

Cynllunio ar gyfer pontio

Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Y coleg fydd yn rheoli'r CDU ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr.

Os oes gan berson ifanc Gynllun Datblygu Unigol yn yr ysgol, mae cynllunio ar gyfer eu camau nesaf yn dechrau ym Mlwyddyn 9.

Adolygiadau sy'n canolbwyntio ar y person

Mae cyfarfodydd a elwir yn PCRs yn helpu i ganolbwyntio ar yr hyn y mae'r person ifanc am ei gyflawni.

Gall Gyrfa Cymru a darparwyr ôl-16 ymuno â'r cyfarfodydd hyn.

Gwneud penderfyniadau

Bydd y broses CDU a hawliau'r person ifanc yn cael eu hegluro. Mae hyn yn cynnwys eu hawl i gytuno neu anghytuno â phenderfyniadau.

Mae'n bwysig cynnwys y person ifanc mewn penderfyniadau cymaint â phosibl er mwyn sicrhau:

  • bod eu meddyliau a'u teimladau'n cael eu hystyried
  • eu bod yn cael y gefnogaeth gywir ar gyfer trosglwyddiad llyfn i addysg a hyfforddiant ôl-16

Os na all person ifanc wneud penderfyniadau am eu CDU, gall rhieni a gofalwyr weithredu ar eu rhan.

Cymorth pellach

Gallwch ddod o hyd i help a chefnogaeth i gynllunio cyfnod pontio eich plentyn yn:

Rhannu eich Adborth