Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Strategaeth Hygyrchedd

Ein gweledigaeth ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yw wedi'i nodi yn ein Cynllun Corfforaethol:

  • rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn
  • bod pob cymuned yn llewyrchus ac yn gynaliadwy
  • bod modd i genedlaethau’r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd, ein treftadaeth a’n diwylliant
  • bod gan bobl leol y sgiliau i gael mynediad at swyddi cynaliadwy am gyflog da yn yr economi werdd leol

Bydd Castell-nedd Port Talbot yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc 0-25 oed, beth bynnag yw eu hamgylchiadau, yn rhan o gymuned sy’n diwallu eu hanghenion ac yn eu cefnogi i ffynnu mewn ffordd sy’n gweithio orau iddyn nhw. (Cynllun Blynyddoedd Cynnar, Plant a Phobl Ifanc CNPT 2024).

Mae’r strategaeth hygyrchedd hon yn cyflwyno’r dull gweithredu mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei ddefnyddio i gynyddu mynediad at addysg i blant a phobl ifanc anabl, fel eu bod yn gallu elwa o ddarpariaeth addysg i’r un graddau â phlant sydd heb anabledd (Canllawiau Llywodraeth Cymru 2018).

Llawrlwythiadau

  • Strategaeth Hygyrchedd 2025-2028 (PDF 319 KB)

Rhannu eich Adborth