Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ynglŷn â'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mae'r dull o gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY bellach wedi newid.

Pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd, sef:

Maent yn disodli'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau blaenorol ynghylch Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).

Am y system ADY

Mae'r prif nodweddion yn cynnwys:

  • dod â'r holl systemau presennol ynghyd mewn un system newydd ar gyfer ADY
  • bod yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn
  • darparu'r un hawliau i ddysgwyr beth bynnag fo'u hoedran neu leoliad
  • cefnogi dysgwyr 0-25
  • gwella’r pontio rhwng lleoliadau
  • darparu darpariaeth Gymraeg lle bo angen
  • system deg a thryloyw i bawb

Beth mae'r system yn ei wneud

Mae’r system ADY yn golygu y bydd rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc yn:

  • cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn gynt
  • chwarae mwy o ran wrth wneud penderfyniadau am eu bywydau a’r cymorth sydd ei angen arnynt
  • gallu dod o hyd i wybodaeth yn haws nag o'r blaen
  • cael eu cefnogi os ydynt yn anghytuno â phenderfyniadau
  • gallu apelio yn erbyn penderfyniadau i'r Tribiwnlys Addysg

Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Bydd gan bob plentyn ag ADY CDU.

Bydd yn disodli'r presennol:

  • Datganiadau AAA
  • Cynlluniau Addysg Unigol
  • Cynlluniau Dysgu a Sgiliau

Gofyn am gyngor

Gallwch ofyn am gyngor ar y System ADY oddi wrth: