Cael help gyda hanfodion ysgol
Gall teuluoedd â phlant o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 ar incwm is a rhai budd-daliadau wneud cais.
Swm y grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2025-26 yw:
- £125 y dysgwr a chyllid ychwanegol i'ch ysgol
- £200 i blant sy'n dechrau blwyddyn 7 a chyllid ychwanegol i'ch ysgol
Beth yw pwrpas y grant
Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu i dalu costau:
- gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
- gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
- hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol
- cyfarpar arbenigol ar gyfer gweithgareddau cwricwlwm newydd fel dylunio a thechnoleg
- cyfarpar TG: gliniaduron a thabledi yn unig (dim ond mewn sefyllfaoedd cyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyg offer i'r teulu y dylid defnyddio’r Grant Hanfodion Ysgol)
- cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored (er enghraifft, dillad gwrth-ddŵr)
- eitemau hanfodol nad ydynt yn wisg ysgol fel dillad i allu cymryd rhan mewn addysg breswyl awyr agored
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: sgowtiaid, geidiaid, cadetiaid, crefftau ymladd, chwaraeon, celfyddydau perfformio neu ddawns
Cymhwysedd
Gallwch wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol os ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Treth Plant - Cyn belled â bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth ac nad ydych chi'n derbyn Credyd Treth Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol - Rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau
- Cymorth o dan Ddeddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999
Cysylltwch
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â: