Cronfeydd Ymddiriedolaeth Addysg Bellach
Darganfyddwch sut i wneud cais am Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg, Cronfa Ymddiriedolaeth Harold & Joyce Charles a Chyllid Myfyrwyr.
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg
Bwriedir i’r gronfa hon gynnig budd i’r rheiny sydd wedi mynychu ysgol uwchradd yn ardal y cyn Sir Forgannwg, gan gynnwys Ysgol Howells, ond heb gynnwys ysgolion a oedd yn ardaloedd cyn Bwrdeistrefi Sirol Caerdydd, Abertawe a Merthyr Tudful, am ddim llai na dwy flynedd.
Mae gwobrau ar gael ar ffurf:
- cymorth ariannol ar gyfer y rhain sy’n mynychu cyrsiau cymeradwy na ddarperir ar eu cyfer dan y cynllun cefnogi myfyrwyr arferol, gan gynnwys cyrsiau proffesiynol a thechnegol a
- cymorth ariannol tuag at brynu cyfarpar, dillad, offer, offerynnau neu lyfrau i’r rheiny sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg i’w cynorthwyo i ddechrau mewn proffesiwn, masnach neu alwedigaeth.
Cronfa Ymddiriedolaeth Harold a Joyce Charles
Amcan yr ymddiriedolaeth yw hyrwyddo addysg myfyrwyr graddedig fel y gallant ennill cymhwyster gradd bellach, er budd y cyhoedd yn gyffredinol a phreswylwyr yr ardal h.y. yr ardal ddaearyddol a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe.
Gwahoddir ceisiadau gan breswylwyr yr ardal sy’n cael budd.
Diffinnir preswylwyr fel a ganlyn:
- pobl sy’n byw yma yn ystod y tymor yn unig (h.y. myfyrwyr sy’n mynd i sefydliad yn yr ardal)
- pobl sy’n byw yn yr ardal y tu allan i’r tymor yn unig (h.y. myfyrwyr sy’n mynd i sefydliad y tu allan i’r ardal)
- graddedigion sydd fel arfer yn byw yn yr ardal
Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, rhaid i fyfyrwyr:
- fyw yn yr ardal (fel a nodir uchod)
- astudio gradd bellach
- peidio â derbyn unrhyw gyllid gan unrhyw gorff dyfarnu arall
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr cyllid.