Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Mae ceisiadau am LCA yn 2025 i 2026 bellach ar agor.

Gall pobl 16 i 18 oed fod yn gymwys i gael taliadau wythnosol o £40 i helpu gyda chostau addysg bellach.

Gwneir taliadau bob pythefnos cyn belled â'ch bod yn bodloni gofynion presenoldeb eich ysgol neu goleg.

Sut i wneud cais

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn LCA os:

  • rydych dros yr oedran ysgol gorfodol
  • byddwch yn 16, 17 neu 18 oed ar neu cyn 31 Awst
  • rydych chi fel arfer yn byw yng Nghymru
  • rydych chi'n astudio cwrs academaidd neu alwedigaethol llawn amser cymwys