Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefnogaeth ar gyfer staff yr ysgol

Rydym yn darparu cwnsela a goruchwyliaeth broffesiynol i staff ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rydym yn mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan i gefnogi iechyd meddwl a lles.

Cwnsela

Mae cwnsela am ddim ac yn gyfrinachol i staff yr ysgol, gan ddarparu cymorth unigol i:

  • archwilio a thrafod eich pryderon neu ofid yn y gwaith neu gartref
  • helpu i ddeall eich anawsterau yn well
  • archwilio atebion

Sesiynau cwnsela

Rydym yn cynnig hyd at chwe sesiwn cwnsela. Gall y sesiynau helpu gyda llawer o broblemau bywyd neu waith anodd.

Gallai pryderon yr hoffech eu trafod gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • teulu neu berthnasoedd
  • teimladau o bryder
  • dod o hyd i gydbwysedd
  • iechyd meddwl
  • colled a galar
  • hwyliau isel
  • hunan-ofal
  • straen

Argaeledd sesiynau cwnsela

Rydym yn cyflwyno sesiynau ar-lein trwy Microsoft Teams i wneud y mwyaf o'r gallu.

Mae’n bosibl y byddwch yn derbyn gwasanaeth cyflymach yn ystod oriau ysgol oherwydd argaeledd uwch.

Mae sesiynau ar gael rhwng 9yb - 5yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Mae argaeledd sesiynau ar ôl oriau ysgol yn gyfyngedig.

Goruchwyliaeth

Mae ein gwasanaeth goruchwylio staff yn caniatáu i uwch reolwyr ysgol a staff bugeiliol:

  • uwch-sgilio yn eu rôl fugeiliol
  • cynyddu eu hyder wrth gefnogi disgyblion
  • gwella eu gallu fel ymarferydd myfyriol
  • trafod materion perthnasol gyda'u rôl
  • dod o hyd i atebion
  • myfyrio ar eu lles a'u ffyrdd o weithio

Mae sesiynau goruchwylio yn digwydd yn fisol ac yn gyfrinachol.

Hyfforddiant

Rydym yn darparu hyfforddiant a gweithdai pwrpasol i helpu staff ysgol.

Wedi'u cyflwyno gan gynghorwyr proffesiynol hyfforddedig a goruchwylwyr, mae ein cyrsiau a'n gweithdai yn hyrwyddo:

  • iechyd meddwl da
  • twf personol a phroffesiynol
  • rheoli heriau dyddiol yn effeithiol
  • ffyrdd o gefnogi disgyblion o amgylch pryderon penodol

Gofyn am apwyntiad

Gallwch ofyn am apwyntiad ar gyfer cwnsela neu oruchwylio staff drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi gydag apwyntiad.