Cwnsela yn y gymuned
Rydym yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc 5 - 25 oed sydd:
- yn absennol o'r ysgol yn aml
- wedi ymddieithrio o'r ysgol, o waith, neu o hyfforddiant
Sesiynau cwnsela
Mae cwnsela cymunedol yn dibynnu ar oedran a dealltwriaeth o'r broses.
Fel arfer, mae'r holl sesiynau cwnsela yn wyneb yn wyneb, ond efallai na fydd hyn yn bosibl ar adegau.
Os na allwn drefnu sesiwn wyneb yn wyneb, byddwn yn archwilio ffyrdd eraill o gyfathrebu. Gallai hyn fod trwy Microsoft Teams neu gefnogaeth dros y ffôn.
Ni fydd y cwnselydd yn rhannu unrhyw beth a drafodir yn y sesiwn gyda staff, ffrindiau neu aelodau o'r teulu, oni bai:
- eich bod yn gofyn iddynt wneud hynny
- eu bod yn teimlo eich bod chi neu eraill mewn perygl
Ble mae'r sesiynau
Mae sesiynau ar gael rhwng 9yb - 4yp, dydd Llun - dydd Mercher.
Maent yn digwydd mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys:
Gofyn am apwyntiad
Gallwch ofyn am sesiwn cwnsela i chi'ch hun, aelod o'r teulu neu ffrind.
Os yw eich cais ar gyfer rhywun arall, rhaid iddynt gytuno i'r atgyfeiriad.
Cysylltwch â'r Tîm Pwynt Cyswllt Sengl (SPOC) i ofyn am sesiwn cwnsela:
Beth sy'n digwydd nesaf
Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi gydag apwyntiad.