Pwy rydym yn ei gefnogi
Ein gwasanaeth
Rydym yn darparu Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion i blant a phobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gwnawn hyn mewn amgylchedd diogel, cyfrinachol, creadigol a chwareus i’w helpu i:
- siarad am eu hemosiynau a'u hanawsterau
- atal problemau emosiynol ac iechyd meddwl rhag datblygu
Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth i staff yr ysgol.
Plant a phobl ifanc
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o:
- blynyddoedd 1-6 trwy ein gwasanaeth therapi plant mewn ysgolion cynradd
- blynyddoedd 7-13 trwy ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion uwchradd
- 5 i 25 oed drwy ein gwasanaeth cwnsela cymunedol
Staff yr ysgol
Rydym yn cynnig hyd at chwe sesiwn cwnsela i staff ysgol i gefnogi:
- eu lles eu hunain
- lles eu disgyblion
Gwnawn hyn trwy gwnsela, goruchwyliaeth broffesiynol a hyfforddiant.