Therapi plant yn yr ysgol gynradd
Mae therapi plant ar gael i ddisgyblion ysgolion cynradd Castell-nedd Port Talbot ym mlynyddoedd 1-6.
Therapi plant
Sut y gall therapi plant helpu
Weithiau mae plant yn ail-greu profiadau trawmatig. Gwnânt hyn er mwyn deall eu gorffennol ac ymdopi â'r dyfodol.
Gall therapi helpu plant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gallant:
- derbyn cefnogaeth emosiynol
- dysgu deall am eu teimladau a'u meddyliau eu hunain
- rheoli perthnasoedd a gwrthdaro
Canlyniadau
Gall therapi arwain at newidiadau cyffredinol neu fwy penodol, er enghraifft:
- manteision cyffredinol - llai o bryder a mwy o hunan-barch
- newidiadau penodol - gwell ymddygiad a pherthnasoedd gyda theulu a ffrindiau
Mae plant a phobl ifanc yn aml yn wynebu digwyddiadau bywyd arwyddocaol yn ystod plentyndod.
Gall cael oedolyn dibynadwy i ymddiried ynddo ddarparu empathi a chefnogaeth werthfawr.
Gofyn am apwyntiad
Rydym yn derbyn ceisiadau gan ysgolion cynradd CNPT ac yn eu hadolygu bob pythefnos.