Rhieni a gofalwyr
Rydym yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn datblygu.
Bydd ein tîm o seicolegwyr cymhwysol yn cefnogi eu:
- datblygiad
- dysgu
- lles cymdeithasol ac emosiynol
Yr hyn a wnawn
Rydym yn helpu plant a phobl ifanc 0-19 oed sy’n cael anawsterau yn yr ysgol.
Er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir, rydym yn gweithio gyda:
- rhiant a gofalwyr
- athrawon
- gweithwyr proffesiynol eraill
Cefnogaeth
Rydym yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth i ysgolion, disgyblion, rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys:
- gwaith achos unigol
- gwaith grŵp gyda phlant
- hyfforddiant i ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill
- cefnogi ysgolion i wella cyflawniad disgyblion a hyrwyddo effeithiolrwydd ysgolion
- gweithio gyda rhieni, gofalwyr ac asiantaethau eraill
- ymchwil a gwaith prosiect
- cyfrannu at bolisi ac ymarfer yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl)
Seicolegydd Addysg (SA)
Mae gan bob ysgol yn CNPT SA dynodedig. Maent yn aml yn ymweld ag ysgolion ac yn rhan o'u tîm cymorth estynedig.
Gallai pryderon yr hoffech eu trafod gyda’r ysgol gynnwys:
- y gwelliant mae eich plentyn yn ei wneud
- sut mae'ch plentyn yn rheoli'r diwrnod ysgol, yn emosiynol ac yn academaidd
- sut maen nhw'n dod ymlaen gyda'u cyd-ddisgyblion
- rhywbeth arall
Gyda'ch cymorth chi, bydd yr ysgol yn ceisio gwella anawsterau eich plentyn yn yr ysgol.
Os yw'r ysgol yn teimlo bod angen cymorth pellach arnynt, byddant yn gofyn am ein cefnogaeth gyda'ch caniatâd.
Sut i gael mynediad atom
Bydd staff yr ysgol a'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn cynllunio cyfarfod gyda'r SA o leiaf unwaith y tymor.
Yn ystod y cyfarfod byddant yn:
- blaenoriaethu eu gwaith yn unol ag anghenion y disgybl
- archwilio'r camau nesaf
- gwirio a oes angen mwy o waith gan yr ysgol, seicolegydd addysg neu weithiwr proffesiynol o'r Gwasanaeth Cynhwysiant
Byddant yn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf ar ôl y cyfarfod.
Ymweliad ysgol
Yn ystod ein hymweliad ysgol, gallwn:
- siarad â'ch plentyn
- ymgynghori ag athrawon eich plentyn
- arsylwi yn ystod dosbarthiadau neu ar yr iard chwarae
- edrych ar waith eich plentyn
- defnyddio deunyddiau ac offer asesu
Byddwch yn cael eich diweddaru drwy gydol y broses o’r gwaith rydym yn ei wneud a sut y bydd yn helpu i lywio ein camau nesaf.
Ar ôl ymweliad ysgol
Ar ôl ymweld ag ysgol eich plentyn byddwn yn:
- rhannu ein canfyddiadau gyda'r rhai dan sylw
- darparu gwybodaeth i helpu i wneud penderfyniadau ar adnabod ADY
- cynnal y cymorth cywir yn seiliedig ar ein canfyddiadau
Bydd yr ysgol yn monitro datblygiad eich plentyn ac yn rhoi gwybod i chi am ei gwelliant.
Cysylltwch â ni
Os hoffech gyngor neu ragor o wybodaeth, cysylltwch ag ysgol eich plentyn yn gyntaf.