Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Ysgolion a sefydliadau

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau i gyflawni canlyniadau llwyddiannus i blant a phobl ifanc.

Cefnogaeth

Mae Seicolegydd Addysg (SA) yn helpu plant, pobl ifanc ac ysgolion sy'n eu cefnogi.

Maent yn eu helpu i sicrhau bod y dysgwr yn gallu cyflawni ei botensial.

Maent yn deall y gall dysgwyr wynebu heriau ar eu taith addysgol, megis:

  • cyfathrebu a rhyngweithio
  • gwybyddiaeth a dysg
  • ymddygiad
  • datblygiad emosiynol a chymdeithasol
  • synhwyraidd
  • corfforol

Swyddogaethau allweddol

Bydd Seicolegwyr Addysg (SA) yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar y pryderon a godwyd gan ysgolion.

Ymhlith eu rolau allweddol mae:

  • ymgynghori â staff, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol
  • asesu ac arsylwi disgyblion yn unigol 
  • hyfforddiant staff
  • ymyriadau unigol a grŵp
  • ymchwil a chyngor polisi

Ymgynghori

Cyn ymgynghoriad

Dylai staff yr ysgol drafod eu pryderon gyda Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CydADY) yr ysgol.

Mae hyn er mwyn nodi a chefnogi anghenion y disgybl ar amser. .

Ar ôl ymgynghoriad

Os na fydd y disgybl wedi gwneud llawer o welliant ar ôl cael cymorth pellach, bydd Cydlynydd ADY yr ysgol yn codi achos.

Bydd angen i’r Cydlynydd ADY gael caniatâd llafar gan riant neu ofalwr y disgybl i godi achos.

Bydd yr ysgol a'r SA yn gweithio gyda'i gilydd i gytuno ar y ffordd orau o weithredu ar gyfer y disgybl.

Gall hyn olygu ymgynghori pellach â disgyblion, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill.

Sut i gael mynediad atom

Dylech drafod pryderon am ddysgu eich plentyn gyda Chydlynydd ADY yr ysgol yn gyntaf.

Bydd y Cydlynydd ADY yn gallu cynnig cymorth a chyngor ar:

  • y camau nesaf ar gyfer anghenion eich plentyn yn yr ysgol
  • codi achos os oes angen cyngor ac arweiniad allanol pellach ar anghenion eich plentyn

Cysylltwch â ni

Gall ysgolion a sefydliadau gysylltu â ni’n uniongyrchol am gyngor anffurfiol:

Gwasanaeth Seicoleg Addysgol
(01639) 763 718 (01639) 763 718 voice +441639763718