Cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (SRT)
Mae'r term Sipsiwn Roma Teithwyr (GRT) yn disgrifio gwahanol grwpiau ethnig a diwylliannol.
Maent yn aml yn rhannu heriau tebyg o ran cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a phrofi gwahaniaethu.
Mae gan bob grŵp eu traddodiadau, arferion ac ieithoedd eu hunain.
Sipsiwn a Theithwyr
Wedi’u diffinio fel grwpiau lleiafrifoedd ethnig, mae’r cymunedau hyn yn cynnwys:
- Sipsiwn Romani Seisnig a Chymreig a theithwyr Albanaidd (sydd hefyd yn grŵp Romani)
- Roma o Ddwyrain Ewrop
- Teithwyr Gwyddelig
Gall rhai teithwyr fyw mewn cartref, carafán, cwch, neu gerbyd oherwydd traddodiad teuluol neu gynefindra.
Mae eraill yn teithio i chwilio am fywyd gwell, am resymau economaidd neu amgylcheddol.
Mae'r teithwyr hyn yn cynnwys:
- syrcas neu bobl sioe
- preswylwyr cychod
- teithwyr newydd
- preswylwyr cerbydau
Cyrraedd yr ardal
Pan fyddwch yn cyrraedd yr ardal gallwn eich helpu:
- gwneud cais am le mewn ysgol
- dod o hyd i safle teithwyr
- ymweld a siarad ag ysgol newydd eich plentyn
-
gyda materion lles megis grantiau ysgol, ceisiadau a chludiant
Mae ein cynorthwywyr addysgu yn darparu cymorth yn yr ysgol i ddwy o'r prif ysgolion sydd â dysgwyr SRT. Maent yn:
Safleoedd i deithwyr
Mae gennym ddau safle SRT i deithwyr. Mae warden yn byw ar bob safle ac mae ein Swyddog Cyswllt yn ymweld yn aml.
Safle teithwyr Llansawel
Mae gan Lansawel ddau safle bach gyda chyfanswm o 24 o leiniau. Mae'r lleoliad yn ddelfrydol oherwydd ei:
- ysgolion lleol
- siopau a chyfleusterau lleol
- cysylltiadau trafnidiaeth
- canolfan feddygol
Safle teithwyr Cae Garw, Margam
Mae Cae Garw yn safle mwy, yn anghysbell gyda 38 o leiniau. Mae’r safle ar lwybr bws rheolaidd gyda thaith fer i:
- ysgol gynradd leol
- siopau a chyfleusterau lleol
- meddygfa
- gorsaf drenau
Gwnewch gais am le ar safle teithwyr
I wneud cais am le ar un o’n safleoedd, bydd angen i chi gysylltu â’n Hadran Ystadau.
Addysgu plant SRT
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi mynediad i addysg i ddisgyblion o’r gymuned SRT.
Rydym yn gweithio gyda theuluoedd, cymunedau, ysgolion ac asiantaethau partner i wneud yn siŵr:
- mae ysgolion yn deall y diwylliant SRT ac yn defnyddio deunyddiau dysgu priodol
- ysgolion yn gwella eu gwasanaethau ar gyfer y gymuned SRT
- rhieni yn cymryd rhan yn addysg eu plentyn
- mae bwlio, gwahaniaethu, llythrennedd a materion diwylliannol yn cael eu trin yn briodol
- rydym yn eu helpu i ddod o hyd i gyrsiau coleg ac addysg oedolion priodol
- rydym yn hyrwyddo presenoldeb plant teithwyr cyn-ysgol mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
- rydym yn rhannu arfer da
Rydym yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth SRT am ddim i ysgolion a sefydliadau eraill i hyrwyddo cynhwysiant.
Cysylltwch â ni
Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â:
Mae rhagor o gyngor ar gael ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru yn TGP Cymru.