Clybiau brecwast
Mae cynllun brecwast am ddim Llywodraeth Cymru yn cynnig pryd maethlon yn rhad ac am ddim i blant cyn ysgol.
Gall plant ddewis un eitem o bob un o'r canlynol:
- grawnfwydydd
- ffrwythau a llysiau
- llaeth neu ddŵr
- bara gwenith cyflawn a thopins
Cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gofrestru ar gyfer y clwb brecwast sydd am ddim.
Dylech roi gwybod i'r ysgol os oes gan eich plentyn ddiet arbennig.