Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Deddfwriaeth Glendid Bwyd

Ar 1 Ionawr 2006, gwnaed newidiadau i'r gyfraith fwyd sy'n berthnasol i fusnesau bwyd yng Nghymru. Y prif gyfreithiau bellach mewn grym yw:

  • Rheoliadau Glendid Bwyd (Cymru) 2006
  • Rheoliad (CE) 852/2004

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Glendid Bwyd Cyffredinol) 1995 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995.  Maent yn nodi'r gofynion glendid sylfaenol ar gyfer pob agwedd ar fusnes bwyd gan gynnwys cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd i gynhyrchu bwyd yn ddiogel.

Mae bron pob un o'r gofynion yn y rheoliadau newydd yr un fath â'r rheoliadau maent yn eu disodli. Y prif ofyniad newydd yw bod yn rhaid i weithredwyr busnesau bwyd yn sefydlu, gweithredu a chynnal System Rheoli Diogelwch Bwyd, neu weithdrefnau, yn seiliedig ar egwyddorion HACCP. Mae'r ddeddfwriaeth wedi'i strwythuro yn y ffordd hon fel y gellir ei gymhwyso yn hyblyg yn yr holl fusnesau bwyd waeth beth yw eu math neu faint.

Mae'r canllaw Castell-nedd Port Talbot i 'Cychwyn Busnes Bwyd Newydd' yn rhoi cyngor ar y gofynion strwythurol, mathau o offer, cyfleusterau a rhai arferion glendid bwyd, bydd angen i chi eu mabwysiadu i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd http://www.food.gov.uk/ neu cysylltwch â ni yn:

  • Iechyd yr Amgylchedd Adran Bwyd, Canolfan Ddinesig, SA11 3QZ
  • Ffôn: 01639 686868
  • E-bost: ehd@npt.gov.uk