Pwy sy’n gallu benthyg teganau?
Mae’r gwasanaeth ar gael i ddarparwyr gofal plant cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot – cylchoedd chwarae, grwpiau rhieni a phlant bach, gwarchodwyr plant, gofalwyr maeth a chlybiau y tu allan i oriau ysgol.
Nod y Llyfrgell Deganau yw darparu cyfleuster benthyg teganau am ddim er mwyn i blant gael chwarae sy’n llawn ysgogiad a fydd yn gwella pob agwedd ar eu datblygiad.
Gwerthusiad diweddar o’r gwasanaeth:
"...Mae’n rhaid i fi ganmol pa mor ddefnyddiol a hyblyg yw’r staff. Maen nhw’n llawn gwybodaeth, yn ystyriol a gellir siarad â nhw wrth gyflwyno gwasanaeth allweddol i wella cyfleoedd chwarae yng Nghastell-nedd Port Talbot"
Sut i ymuno â’r Llyfrgell Deganau?
Rhaid cwblhau ffurflen aelodaeth a’i dychwelyd i’r Llyfrgell Deganau cyn y gellir benthyg llyfrau. Mae croeso i aelodau ymweld â’r llyfrgell deganau i ddewis a chasglu teganau. Ffoniwch i drefnu apwyntiad.
Sawl tegan y gallaf fenthyg?
Gall grwpiau chwarae, grwpiau rhieni a phlant bach a chlybiau y tu allan i oriau ysgol fenthyg 4 tegan. Gall gwarchodwyr plant fenthyg 2 degan. Ond, gellir benthyg mwy o deganau yn ôl disgresiwn staff y Llyfrgell Deganau.
Ble mae’r Llyfrgell Deganau?
Neath Port Talbot Library and Cultural Services Headquarters,
Reginald Street,
Velindre,
Port Talbot
SA13 1YY
Oriau agor y Llyfrgell Deganau
Dydd |
Bore |
Prynhawn |
Mawrth |
10:00 - 13:00 |
14:00 - 17:00 |
Mercher |
10:00 - 13:00 |
14:00 - 17:00 |
Am fwy o fanylion, cysylltwch â
Patricia Stanley
Dolenni