Pan fydd y cyhoedd yn rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi'u gadael, bydd ein swyddogion gorfodi'n archwilio'r cerbydau hynny, neu'r rhai y maent yn dod ar eu traws ar eu patrolau dyddiol yn y fwrdeistref.
Nid yw'r ffaith bod cerbyd yn arddangos disg treth sydd wedi dod i ben neu mae wedi'i barcio'n wael yn golygu ei fod wedi'i adael. Os ydych yn ymwybodol o gerbyd sy'n cael ei yrru heb arddangos disg treth cyfredol, cysylltwch â'r DVLA.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ni am gerbyd sydd wedi'i adael, cofiwch gynnwys:
- rhif cofrestru'r cerbyd ac a yw wedi'i drethu
- gwneuthuriad, model a lliw'r cerbyd
- union leoliad y cerbyd
- am faint y mae'r cerbyd wedi'i adael yn ei leoliad presennol heb ei symud.
Os bydd y swyddog gorfodi yn credu bod y cerbyd wedi'i adael, bydd yn gosod hysbysiad ar y cerbyd yn rhybuddio'r perchennog bod rhaid iddo gysylltu â ni er mwyn hawlio'r cerbyd neu'i symud, neu byddwn yn ei symud. Caiff y perchennog 24 awr i wneud hyn.
Yr hyn y byddwn yn ei wneud i chi
- Fel arfer, byddwn yn archwilio cerbydau o fewn un diwrnod gwaith i ni gael ein hysbysu o'r manylion
- Os bydd ein swyddog gorfodi yn ystyried bod y cerbyd wedi'i adael, byddwn yn gosod yr hysbysiad priodol ar y ffenestr flaen
- Byddwn yn archwilio cerbyd yr ydym wedi gosod hysbysiad arno eto pan fydd cyfnod priodol yr hysbysiad wedi dod i ben, os na fydd y perchennog wedi'i hawlio
- Bydd ein contractiwr enwebedig yn symud unrhyw gerbyd sydd heb ei hawlio ac sy'n dal i fod yn bresennol ar ôl i gyfnod yr hysbysiad ddod i ben. Gellir dinistrio'r cerbyd neu'i gadw mewn cyfleuster storio diogel, gan ddibynnu ar ei statws.