Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gorfodi baw cŵn

A yw baw cŵn yn broblem yn eich ardal?

  • A yw cerddwyr cŵn anghyfrifol yn cerdded i ffwrdd ac yn anwybyddu eu cyfrifoldebau, gan beryglu iechyd cyhoeddus a rhoi plant mewn perygl?
  • Rydym am rymuso cymunedau lleol er mwyn eu hamddiffyn a dangos y cerdyn coch i faw cŵn yn eu cymdogaethau.
  • Rhowch wybod yn gyfrinachol am faw cŵn heddiw a byddwn yn eich helpu i gael gwared arno.
Rhoi gwybod am faw cŵn

Cyngor i berchnogion a meistri cŵn

Mae'n anghyfreithlon i beidio â glanhau baw eich ci, neu unrhyw gi y mae gennych ofal drosto, oddi ar lwybr troed neu unrhyw dir arall sy'n agored i'r cyhoedd. Mae baw cŵn yn niwsans a gall hefyd fod yn beryglus, yn enwedig i blant ifanc, am y gall arwain at afiechydon difrifol fel tocsocariasis (haint llyngyren).

Bydd methu glanhau ar ôl ci dan eich gofal yn arwain at Hysbysiad o Gosb Benodol, sy'n debyg i docyn parcio, gwerth £100, neu eich erlyn, a all arwain at ddirwy o £1,000 yn ogystal ag unrhyw gostau. Nid yw'n amddiffyniad derbyniol i honni na wyddech am weithredoedd y ci neu nid oeddech yn cario rhywbeth i'ch galluogi i gael gwared ar y baw ar y pryd. Mae peidio â rhoi eich enw a'ch cyfeiriad i swyddog awdurdodedig ar gais mewn cysylltiad â baw cŵn yn drosedd a all arwain at ddirwy arall o £1,000 yn ogystal ag unrhyw gostau.

Yr hyn rydym yn gofyn i chi ei wneud

  • Rhowch wybod am berchnogion cŵn anghyfrifol i'n wardeniaid cŵn neu'n swyddogion gorfodi gwastraff drwy ffonio (01639) 686868 neu drwy e-bostio environment@npt.gov.uk Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib am y ci a'i berchennog, a'r amserau a'r lleoliadau pan fo'r perchennog yn mynd â'r ci am dro fel arfer.
  • • Byddwch yn berchennog ci cyfrifol drwy gario bagiau tafladwy i sicrhau y gallwch lanhau ar ôl eich ci, gan ddefnyddio biniau baw cŵn. Rheolwch eich ci bob amser; cadwch eich ci allan o ardaloedd lle gwaherddir cŵn; a pheidiwch â chaniatáu i'ch ci fynd allan ar ei ben ei hun.
Rhoi gwybod am broblem â bin cŵn (llawn/wedi'i ddifrodi)