Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Caniatad Sgip

Os ydych yn dymuno i osod sgip ar unrhyw ran o'r briffordd yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded sgip.

Rhaid i chi fod yn weithredwr sgip cofrestredig a bydd angen i chi gofrestru fel cludwr gwastraff gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

Faint fydd yn ei gostio?

Y ffi bresennol am drwydded sgip yw £43.50 (bydd angen cerdyn debyd neu gredyd arnoch) mae trwyddedau sgip yn ddilys am 28 diwrnod. Os ydych yn dymuno ymestyn y drwydded ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod cychwynnol, rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.

Sut i wneud cais?

Gallwch wneud cais am drwydded sgip ar-lein.

Gwneud cais am drwydded sgip


 *Llenwch y ffurflen gais sgip canlynol a'i gadw fel pdf. Gall hyn gael ei llwytho yn ystod y broses ymgeisio.

Lawrlwytho

  • Rheoliadau Skip (DOC 47 KB)

    m.Id: 10429
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Rheoliadau Skip
    mSize: 47 KB
    mType: doc
    m.Url: /media/4308/skip_regulations_2017_w.doc

  • Ffurflen Cais Sgip (DOCX 43 KB)

    m.Id: 19836
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Ffurflen Cais Sgip
    mSize: 43 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/12028/skip-application-form-cymraeg.docx

Lawrlwytho...
Packaging:  
Complete

Mwy o wybodaeth

 

Faint o amser a gymer i brosesu'r cais?

Fel arfer caiff ceisiadau eu prosesu o fewn tri i bum niwrnod gwaith.

Archwilir pob cais yn unigol, i wirio addasrwydd y lleoliad arfaethedig. Dylai gweithredwyr sgip aros am gymeradwyaeth cyn gosod sgip ar y briffordd. Unwaith y cymeradwyir sgip, bydd yr adran yn cysylltu â'r ymgeisydd i'w hysbysu o'r canlyniad, ac os oes unrhyw amodau ychwanegol yn berthnasol.

A yw caniatâd dealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais yn cael ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 10 diwrnod gwaith o'u derbyn cais wedi'i gwblhau'n llawn.

Os ydw i'n cael fy gwrthod, sut ydw I'n apelio?

Nid oes gweithdrefn apelio. Atgoffir gweithredwyr sgip na ddylent rhoi sgip ar y Briffordd os yw wedi ei wrthod gan yr Awdurdod.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw benderfyniadau, cysylltwch â'r adran gwaith stryd ar 01639 686338.

Sut ydw i'n rhoi gwybod i chi am newidiadau mewn amgylchiadau?

Cysylltwch â'r adran Gwaith Stryd, i rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.

Manylion Cyswllt Gwaith Stryd

Adran Gwaith Stryd,
CBS Castell-nedd Port Talbot,
Y Ceiau, Ffordd Brunel,
Parc Ynni Baglan
Castell-nedd
SA11 2GG

Ffon: 01639 686338

Ebost: streetworks@npt.gov.uk