Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Ymholiadau cyn Cyflwyno Cais

Ein hymrwymiad gwasanaeth

Byddwn yn mynd ati i gysylltu â'n cwsmeriaid i ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais o safon ar yr holl gynigion datblygu, gan gynnig gwasanaeth unigol â'r prif nod o 'Gyflwyno Systemau Draenio Cynaliadwy o Safon i'w Datblygu'n Gyflym’.

Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy

Mae ymagwedd y cyngor at systemau draenio cynaliadwy'n parhau i roi pwys mawr ar ddarparu'r cyngor gorau posib i ddatblygwr/ymgeisydd posib cyn ac/neu yn ystod y broses o gyflwyno cais cynllunio ffurfiol.

O 1 Tachwedd 2018, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwasanaeth cyn ymgeisio yn unol â'i ddyletswydd newydd fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy o dan Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Sylwer y codir tâl o £250 (gan gynnwys TAW) am y gwasanaeth hwn o 1 Tachwedd 2018 a bwriedir ei roi ar waith ar gyfer datblygiadau newydd sy'n debygol o gael eu cyflwyno ar ôl 7 Ionawr 2019.

Fel rhan o'r trafodaethau cychwynnol, mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth a gyflwynir gynnwys y canlynol:

  • Llwybrau llif y dŵr
  • Mannau gollwng dŵr
  • Cynllun cyfuchlinol
Bwriedir i 'Brotocol Gwasanaeth cyn Cyflwyno Cais y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy' gynrychioli'n rhagweithiol ddatganiad gwasanaeth y cyngor o ran yr holl wasanaethau cyn cyflwyno cais a gyflwynir, y mae'n rhaid talu amdanynt neu beidio. Yn ogystal ag amlinellu'r drefn codi tâl, mae hefyd yn nodi manylion lefel yr wybodaeth y dylid ei chyflwyno ac ansawdd yr ymateb a ddisgwylir wrth gysylltu â'r cyngor mewn trafodaethau cyn ymgeisio.

Dogfennau i'w lawrlwytho

  • Ffurflen Gais ar gyfer derbyn Cyngor Cyn Ymgeisio ar Systemau Draenio Cynaliadwy am ddatblygiadau newydd (DOCX 236 KB)

    m.Id: 17826
    m.ContentType.Alias: nptDocument
    mTitle: Ffurflen Gais ar gyfer derbyn Cyngor Cyn Ymgeisio ar Systemau Draenio Cynaliadwy am ddatblygiadau newydd
    mSize: 236 KB
    mType: docx
    m.Url: /media/10491/pre-app-form-final-version-05_11_18-welsh.docx